Lwfans Gweini

Sgipio cynnwys

Gwneud cais am Lwfans Gweini os ydych yn nesáu at ddiwedd oes

Os ydych yn nesáu at ddiwedd oes (er enghraifft, oherwydd salwch sy’n cyfyngu ar fywyd) efallai y byddwch yn gallu cael Lwfans Gweini yn gyflymach ac ar gyfradd uwch.

Weithiau gelwir hyn yn ‘reolau arbennig ar gyfer diwedd oes’.

Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael budd-daliadau eraill os ydych yn nesáu at ddiwedd oes.

Cymhwysedd

Rydych yn gymwys os:

  • ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth
  • mae eich meddyg neu weithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud y gallai fod gennych 12 mis neu lai i fyw

Gall fod yn anodd rhagweld pa mor hir y gallai rhywun fyw. Os nad yw gweithiwr meddygol proffesiynol wedi siarad â chi am hyn, gallwch barhau i ofyn iddynt gefnogi eich cais o dan y rheolau arbennig ar gyfer diwedd oes.

Beth fyddwch yn ei gael

Byddwch yn cael y gyfradd uwch o £108.55 yr wythnos.

Gallech hefyd gael Credyd Pensiwn, Budd-dal Tai neu Ostyngiad Treth Gyngor ychwanegol.

Ni fydd y llythyr am yr arian a ddyfarnwyd yn sôn am ‘reolau arbennig’.

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais dros eich hun neu gall rhywun arall wneud cais ar eich rhan (nid oes angen eich caniatâd arnynt).

Mae angen i chi:

  • ofyn i weithiwr meddygol proffesiynol am ffurflen SR1 - byddant naill ai’n ei llenwi ac yn rhoi’r ffurflen i chi neu’n ei hanfon yn uniongyrchol i’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP)
  • gwneud cais am Lwfans Gweini ar-lein neu drwy’r post

Ni fydd angen i chi fynd i asesiad wyneb yn wyneb.

Gwneud cais ar-lein

I wneud cais, byddwch angen:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • eich cyfeiriad a manylion cyswllt
  • manylion o’r anabledd neu gyflwr iechyd rydych angen cymorth ychwanegol gyda hwy ar ei gyfer
  • manylion meddygfa eich Meddyg Teulu neu ganolfan feddygol
  • manylion eich cartref gofal, ysbyty neu hosbis os ydych yn aros mewn un ar hyn o bryd

Dechrau nawr

Gwneud cais drwy’r post

Gallwch naill ai: 

Llinell gymorth Lwfans Gweini
Ffôn: 0800 731 0122
Ffôn testun: 0800 731 0317
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 731 0122
Iaith Arwyddion Prydain (BSL)gwasanaeth cyfnewid fideo os ydych ar gyfrifiadur - darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Anfonwch y ffurflen gais wedi’i chwblhau at:

Freepost
DWP Attendance Allowance

Ar ôl i chi wneud cais

Ar ôl i chi anfon eich cais, byddwn yn cysylltu â chi dros y ffôn neu’n anfon llythyr o fewn 3 wythnos i egluro pryd y gallwch ddisgwyl penderfyniad.

Unwaith y bydd penderfyniad yn cael ei wneud, byddwch yn cael llythyr yn egluro’r canlyniad.

Pryd y byddwch yn cael eich talu

Os ydych yn cael dyfarniad o Lwfans Gweini, bydd y llythyr penderfyniad yn dweud wrthych pryd y byddwch yn cael eich taliad cyntaf.

Os ydych yn gwneud cais ar-lein, bydd eich cais yn dechrau ar y dyddiad y byddwch yn gwneud eich cais.

Os ydych yn argraffu ac yn anfon y ffurflen drwy’r post, bydd eich cais yn dechrau ar y dyddiad mae’r DWP yn ei derbyn.

Os byddwch yn ffonio’r llinell gymorth i gael ffurflen, bydd eich cais yn dechrau ar ddyddiad eich galwad ffôn (os byddwch yn dychwelyd y ffurflen o fewn 6 wythnos).

Os ydych eisoes yn cael Lwfans Gweini

Cysylltwch â llinell gymorth y Lwfans Gweini ar unwaith os ydych eisoes yn cael Lwfans Gweini a bod gweithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud y gallai fod gennych 12 mis neu lai i fyw.