Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) i oedolion

Sgipio cynnwys

Os ydych eisoes yn cael DLA

Os cawsoch eich geni ar neu cyn 8 Ebrill 1948, byddwch yn parhau i gael DLA cyhyd â’ch bod yn gymwys ar ei gyfer.

Os cawsoch eich geni ar ôl 8 Ebrill 1948, bydd eich DLA yn dod i ben. Fe gewch lythyr yn dweud wrthych pryd fydd hynny’n digwydd. Byddwch yn parhau i gael DLA tan y dyddiad hwnnw.

Oni bai bod eich amgylchiadau’n newid, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth nes i chi gael y llythyr hwn.

Os ydych chi’n byw yn yr Alban, gallwch ddewis symud o DLA i Daliad Anabledd Oedolion cyn i’ch cais DLA ddod i ben drwy gysylltu â’r Ganolfan Gwasanaeth Anabledd.

Os yw’ch cais DLA yn dod i ben

Os ydych chi’n byw yng Nghymru neu Loegr

Os yw eich DLA yn dod i ben, fe gewch lythyr yn eich gwahodd i wneud cais am Daliad Annibyniaeth Personol (PIP). Os gwnewch gais, bydd angen i chi ei wneud o fewn 28 diwrnod.

Bydd DLA yn parhau i gael ei dalu tan o leiaf 28 diwrnod ar ôl gwneud penderfyniad am eich cais PIP.

Os ydych yn gymwys i gael PIP, byddwch yn dechrau cael taliadau PIP cyn gynted ag y bydd eich taliadau DLA yn dod i ben.

Os ydych chi’n byw yn yr Alban

Os yw eich DLA yn dod i ben, byddwch yn cael llythyrau yn dweud wrthych eich bod yn cael eich symud o DLA i Daliad Anabledd Oedolion. Ni fydd gennych fylchau yn eich taliadau.

Ar ôl i chi symud drosodd, bydd Social Security Scotland yn adolygu’r hyn y dylech ei gael gan Daliad Anabledd Oedolion yn seiliedig ar eich amgylchiadau presennol.

Newid yn eich amgylchiadau

Rhaid i chi gysylltu â’r Ganolfan Gwasanaeth Anabledd os bydd eich amgylchiadau’n newid, oherwydd gallai hyn effeithio ar faint o DLA y gewch. Er enghraifft:

  • mae lefel yr help sydd ei angen arnoch neu mae’ch cyflwr yn newid
  • rydych yn mynd i’r ysbyty neu gartref gofal am fwy na 4 wythnos
  • mae gweithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud y gallai fod gennych 12 mis neu lai i fyw
  • rydych yn bwriadu mynd dramor am fwy na 4 wythnos
  • rydych yn cael eich carcharu neu’ch cadw yn y ddalfa

Mae’n rhaid i chi hefyd gysylltu â’r ganolfan os:

  • rydych yn newid eich enw, cyfeiriad neu fanylion banc
  • rydych am roi’r gorau i dderbyn eich budd-dal
  • mae manylion eich meddyg yn newid

Efallai y gofynnir i chi wneud cais am Daliad Annibyniaeth Personol (PIP) neu gael gwybod eich bod yn cael eich symud o DLA i Daliad Anabledd Oedolion ar ôl i chi roi gwybod am newid i’ch amgylchiadau.

Gallech gael eich erlyn neu’n gorfod talu cost ariannol os ydych yn rhoi gwybodaeth anghywir neu beidio â rhoi gwybod am newid yn eich amgylchiadau.

Os ydych wedi cael eich gordalu

Efallai y bydd yn rhaid i chi ad-dalu’r arian os ydych:

  • ddim wedi rhoi gwybod am newid ar unwaith
  • wedi rhoi gwybodaeth anghywir
  • wedi eich gordalu mewn camgymeriad

Gwybodaeth am sut i ad-dalu’r arian sy’n ddyledus gennych o ordaliad budd-dal.

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad

Gallwch herio penderfyniad am eich cais DLA. Gelwir hyn yn gofyn am ‘ailystyriaeth orfodol’.