Lwfans Gofalwr
Gwneud cais
Cyn i chi wneud cais gwnewch yn siwr bod gennych:
-
eich rhif Yswiriant Gwladol (os oes gennych bartner byddwch angen un nhw hefyd)
- manylion banc neu gymdeithas adeiladu (oni bai eich bod yn cael Pensiwn y Wladwriaeth)
- manylion cyflogaeth a slip cyflog diweddaraf os ydych yn gweithio
- P45 os ydych wedi gorffen gweithio yn ddiweddar
- manylion y cwrs os ydych yn astudio
- manylion o unrhyw dreuliau, er enghraifft cyfraniadau pensiwn neu gost gofalu am eich plant neu’r person anabl tra’ch bod yn y gwaith
Byddwch hefyd angen manylion y person rydych yn gofalu amdanynt. Byddwch angen eu:
- dyddiad geni a chyfeiriad
- rhif Yswiriant Gwladol os ydynt yn 16 oed neu drosodd
- cyfeirnod Lwfans Byw i’r Anabl os ydynt o dan 16 oed
Gallwch ôl-ddyddio eich cais am hyd at 3 mis.
Os ydych yn byw yn yr Alban
Os ydych chi’n byw yn yr Alban, mae angen i chi wneud cais am Daliad Cymorth i Ofalwyr yn lle Lwfans Gofalwr.
Ffyrdd eraill i wneud cais
Os na allwch wneud cais ar-lein, gallwch wneud cais drwy’r post neu ffonio’r Uned Lwfans Gofalwr i ofyn am ffurflen.
Ymholiadau cyffredinol
Ffôn: 0800 731 0297
Ffôn testun: 0800 731 0317
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 731 0297
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) gwasanaeth cyfnewid fideo os ydych ar gyfrifiadur - darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau
Cael help a chyngor
Gallwch gael cymorth a chyngor annibynnol gan:
Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad
Gallwch herio penderfyniad ynglŷn â’ch cais. Gelwir hyn yn gofyn am ailystyriaeth orfodol.