Lwfans Mamolaeth
Trosolwg
Mae Lwfans Mamolaeth yn daliad allwch ei gael os ydych yn cymryd amser i ffwrdd i gael babi.
Gallwch ei gael os ydych:
- yn gyflogedig ond methu cael Tâl Mamolaeth Statudol (SMP)
- yn hunangyflogedig
- wedi stopio gweithio yn ddiweddar
- yn cymryd rhan mewn gwaith di-dâl ym musnes eich cymar neu bartner sifil
Gallwch gael Lwfans Mamolaeth am hyd at 39 wythnos.
Gallwch wneud cais am Lwfans Mamolaeth ar ôl i chi fod yn feichiog am 26 wythnos. Gall taliadau ddechrau unrhyw bryd rhwng yr 11 wythnos cyn y disgwylir eich babi a’r diwrnod ar ôl i’r babi gael ei eni.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English) a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) a mewn ffurf hawdd i’w ddarllen.
Gall unrhyw arian rydych yn ei gael effeithio ar eich budd-daliadau eraill.