Lwfans Mamolaeth
Beth fyddwch yn ei gael
Defnyddiwch y cyfrifiannell hawliau mamolaeth i gyfrifo faint y gallech ei gael.
Os ydych yn gyflogedig neu wedi gorffen gweithio yn ddiweddar
Byddwch yn cael £184.03 yr wythnos neu 90% o’ch enillion wythnosol cyfartalog (pa un bynnag sy’n llai) am hyd at 39 wythnos os ydych chi’n gyflogedig neu wedi gorffen gweithio yn ddiweddar.
Gallwch gael Lwfans Mamolaeth am hyd at 39 wythnos. Mae hyn yn golygu os cymerwch y 52 wythnos lawn o Absenoldeb Mamolaeth Statudol, bydd eich 13 wythnos olaf yn ddi-dâl.
Os ydych chi’n hunangyflogedig
Gallwch gael rhwng £27 a £184.03 yr wythnos am hyd at 39 wythnos os ydych chi’n hunangyflogedig.
Mae faint rydych chi’n ei gael yn dibynnu ar faint o gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 rydych chi wedi’u gwneud yn ystod y 66 wythnos cyn y disgwylir eich babi.
I gael £184.03 yr wythnos mae’n rhaid eich bod:
- wedi’ch cofrestru gyda Chyllid a Thollau EF (HMRC) am o leiaf 26 wythnos yn y 66 wythnos cyn y disgylir eich babi
- wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 am o leiaf 13 o’r 66 wythnos cyn y disgwylir eich babi
Efallai y cewch £27 am rai wythnosau tra bod eich cyfraniadau yn gysylltiedig â’ch cais am Lwfans Mamolaeth. Bydd eich taliadau’n cael eu cynyddu a’u hôl-ddyddio os oes angen. Gall hyn gymryd sawl wythnos.
Os ydych wedi talu llai na 13 wythnos o gyfraniadau
Bydd eich Lwfans Mamolaeth yn cael ei gyfrifo yn seiliedig ar sawl wythnos o gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 a wnaethoch.
Os nad ydych wedi talu unrhyw gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2, bydd gennych hawl i £27 yr wythnos Lwfans Mamolaeth.
Gallwch ychwanegu at eich cyfraniadau i gynyddu eich Lwfans Mamolaeth ar ôl i chi wneud cais.
Cynyddu eich Lwfans Mamolaeth
Ar ôl i chi wneud cais, bydd CThEF yn cysylltu â chi os ydych wedi talu llai na 13 wythnos o Yswiriant Gwladol Dosbarth 2. Byddant yn dweud wrthych faint o gyfraniadau ychwanegol sydd eu hangen arnoch i gael swm llawn y Lwfans Mamolaeth.
Yn dibynnu ar faint o gyfraniadau ychwanegol rydych yn eu talu, gallwch gael rhwng £27 a £184.03 yr wythnos am hyd at 39 wythnos.
Unwaith y bydd eich cyfraniadau ychwanegol wedi’u cysylltu â’ch cais am Lwfans Mamolaeth, bydd eich taliadau’n cael eu cynyddu a’u hôl-ddyddio os oes angen. Gall hyn gymryd sawl wythnos.
Mae cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 yn £3.45 yr wythnos.
Os ydych chi’n gwneud gwaith di-dâl i fusnes eich cymar neu’ch partner sifil
Gallwch gael £27 yr wythnos am hyd at 14 wythnos os ydych chi’n gwneud gwaith di-dâl i fusnes eich cymar neu’ch partner sifil.
Sut byddwch yn cael eich talu
Mae Lwfans Mamolaeth yn cael ei dalu bob 2 neu 4 wythnos.
Mae pob budd-dal, pensiwn a lwfans fel arfer yn cael eu talu’n syth i mewn i’ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd.
Effaith ar fudd-daliadau eraill
Pan fyddwch yn gwneud cais am Lwfans Mamolaeth, gall rhai o’ch budd-daliadau eraill newid, ond fel arfer bydd cyfanswm eich budd-daliadau naill ai’n cynyddu neu’n aros yr un peth.
Y budd-daliadau sy’n cael eu heffeithio yw:
- Credyd Cynhwysol
- budd-daliadau profedigaeth
- Lwfans Gofalwr
- Taliad Cymorth Gofalwr
- Rhyddhad Treth Cyngor
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA)
- Budd-dal Tai
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) - bydd hyn yn dod i ben os ydych yn cael Lwfans Mamolaeth
Efallai y byddwch hefyd yn cael eich effeithio gan y cap ar fudd-daliadau, sy’n cyfyngu’r cyfanswm o fudd-daliadau y gallwch eu cael. Mae’n berthnasol i’r rhan fwyaf o bobl 16 oed neu’n hŷn sydd heb gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau i gyfrifo sut y bydd eich budd-daliadau eraill yn cael eu heffeithio.
Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol
Caiff eich taliad Credyd Cynhwysol ei leihau gan swm sy’n hafal i’ch taliad Lwfans Mamolaeth.
Efallai y byddwch yn cael swm ychwanegol o Gredyd Cynhwysol ar gyfer eich plant (p’un a ydych chi’n cael lwfans mamolaeth ai peidio).
Rhowch wybod am newid ar eich cyfrif Credyd Cynhwysol os ydych yn dechrau cael Lwfans Mamolaeth.
Bydd pa fudd-daliadau a gewch yn effeithio ar y credydau Yswiriant Gwladol rydych yn gymwys ar eu cyfer. Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol:
- gyda thaliadau Lwfans Mamolaeth gallwch gael credydau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1, sy’n eich helpu i fod yn gymwys am rai budd-daliadau eraill.
- heb daliadau Lwfans Mamolaeth gallwch ond cael credydau Yswiriant Gwladol Dosbarth 3, sy’n cyfrif tuag at eich Pensiwn y Wladwriaeth yn unig.
Os ydych chi wedi cael eich talu gormod
Efallai y bydd yn rhaid i chi ad-dalu’r arian os ydych:
- heb roi gwybod am newid ar unwaith
- wedi rhoi gwybodaeth anghywir
- wedi cael eich gordalu trwy gamgymeriad
Darganfyddwch sut i ad-dalu’r arian sy’n ddyledus gennych o ordaliad budd-dal.