Trosolwg

Gallai Lwfans Pâr Priod leihau eich bil treth gan swm sydd rhwng £427 a £1,108 y flwyddyn.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Gallwch hawlio Lwfans Pâr Priod os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol:

  • rydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil 

  • rydych yn byw gyda’ch priod neu bartner sifil

  • ganed un ohonoch cyn 6 Ebrill 1935

Ar gyfer priodasau cyn 5 Rhagfyr 2005, defnyddir incwm y gŵr i gyfrifo’r Lwfans Pâr Priod. Ar gyfer priodasau a phartneriaethau sifil ar ôl y dyddiad hwn, incwm y sawl sy’n ennill y mwyaf o gyflog sy’n cael ei ddefnyddio.

Os cawsoch chi a’ch partner eich geni ar neu ar ôl 6 Ebrill 1935, efallai fod modd i chi hawlio Lwfans Priodasol yn lle hynny.