Lwfans Pâr Priod

Skip contents

Beth y byddwch yn ei gael

Gallai Lwfans Pâr Priod leihau eich bil treth bob blwyddyn os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil.

Ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025, gallai ostwng eich bil treth gan swm sydd rhwng £427 a £1,108 y flwyddyn.

Defnyddiwch y gyfrifiannell Lwfans Pâr Priod (yn agor tudalen Saesneg) i gyfrifo’r hyn y gallech ei gael.

Os byddwch yn priodi neu’n cofrestru partneriaeth sifil, cewch y lwfans ar sail pro rata am weddill y flwyddyn dreth honno.

Os bydd un ohonoch yn marw neu os byddwch yn ysgaru neu’n gwahanu, bydd y lwfans yn parhau hyd nes diwedd y flwyddyn dreth.

Gallwch drosglwyddo’ch Lwfans Pâr Priod i’ch priod neu bartner sifil.

Os ydych chi a’ch priod neu’ch partner sifil wedi gwahanu oherwydd eich amgylchiadau yn hytrach nag yn sgil penderfyniad ffurfiol i wahanu, gallwch hawlio Lwfans Pâr Priod o hyd.