Lwfans Pâr Priod
Rhagor o wybodaeth
Trosglwyddo Lwfans Pâr Priod sydd heb ei ddefnyddio ar ôl i’r flwyddyn dreth ddod i ben
Os yw’ch priod neu bartner sifil yn talu treth, gallwch drosglwyddo unrhyw Lwfans Pâr Priod nad ydych wedi’i ddefnyddio oherwydd:
-
nid ydych yn talu treth
-
nid yw’ch bil treth yn ddigon uchel
Llenwch ffurflen 575 neu ofyn i Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF i anfon copi atoch drwy’r post.
Rhannu neu drosglwyddo’ch Lwfans Pâr Priod cyn i’r flwyddyn dreth ddechrau
Gallwch chi neu’ch priod (neu’ch partner sifil) wneud y canlynol:
-
rhannu isafswm y Lwfans Pâr Priod
-
trosglwyddo isafswm cyfan y Lwfans Pâr Priod o’r naill i’r llall
Llenwch ffurflen 18 (yn agor tudalen Saesneg) cyn dechrau’r flwyddyn dreth. Gallwch hefyd gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF i gael copi drwy’r post.
Lwfansau treth a rhoi i elusen
Os ydych yn talu treth ac yn rhoi arian i elusen yn y DU gan ddefnyddio Rhodd Cymorth, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF. Gall gynyddu’r lwfansau treth os cawsoch eich geni cyn 6 Ebrill 1938.