Mathau o bensiynau preifat

Mae cynlluniau pensiwn preifat yn ffyrdd i chi neu’ch cyflogwr gynilo arian ar gyfer eich dyfodol (yn agor tudalen Saesneg).

Mae yna 2 brif fath:

  • cyfraniadau diffiniedig – cronfa bensiwn sydd wedi’i seilio ar faint o arian sy’n cael ei dalu i mewn 
  • buddiannau diffiniedig – pensiwn gweithle (fel arfer) sydd wedi’i seilio ar eich cyflog a pha mor hir rydych wedi gweithio i’ch cyflogwr

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg

Cynlluniau pensiwn cyfraniadau diffiniedig

Fel arfer, bydd y rhain naill ai’n bensiynau personol neu’n bensiynau rhanddeiliaid. Weithiau, fe’u gelwir yn ‘cynlluniau pensiwn pryniannau arian’.

Gallant fod:

Mae’r arian rydych chi neu’ch cyflogwr yn ei dalu i mewn yn cael ei roi mewn buddsoddiadau (fel cyfranddaliadau) gan y darparwr pensiwn. Gall gwerth eich cronfa bensiwn gynyddu neu ddisgyn yn dibynnu ar sut mae’r buddsoddiadau’n perfformio.

Bydd rhai cynlluniau yn symud eich arian i fuddsoddiadau risg is wrth i chi agosáu at oedran ymddeol. Mae’n bosibl y gallwch ofyn i’ch darparwr pensiwn symud eich arian i fuddsoddiadau risg is os na fydd hyn yn digwydd yn awtomatig.

Yr hyn y byddwch yn ei gael

Mae’r swm y byddwch yn ei gael pan fyddwch yn cymryd eich cronfa bensiwn yn dibynnu ar y canlynol:

  • faint o arian a dalwyd i mewn
  • sut gwnaeth y buddsoddiadau berfformio
  • sut y byddwch yn cymryd yr arian, er enghraifft fesul taliadau rheolaidd, cyfandaliad neu symiau llai

Fel arfer, gallwch gymryd hyd at 25% o’r swm a gronnwyd mewn unrhyw bensiwn fel cyfandaliad rhydd o dreth. Y mwyaf y gallwch ei gymryd yw £268,275.

Os oes gennych lwfans wedi’i ddiogelu (yn agor tudalen Saesneg), gall hyn gynyddu swm y cyfandaliad rhydd o dreth y gallwch ei gymryd o’ch pensiynau.

Fel arfer, bydd y darparwr pensiwn yn cymryd canran fach o’r arian hwn fel ffi rheoli – dylech wirio swm y ffi hon.

Cynlluniau pensiwn buddiannau diffiniedig

Fel arfer, bydd y rhain yn bensiynau gweithle (yn agor tudalen Saesneg) a drefnir gan eich cyflogwr. Weithiau, fe’u gelwir yn ‘cynlluniau pensiwn cyflog terfynol’ neu ‘cynlluniau pensiwn cyfartaledd gyrfa’.

Yr hyn y byddwch yn ei gael

Mae’r swm y byddwch yn ei gael yn dibynnu ar reolau eich cynllun pensiwn, nid ar sut mae’r buddsoddiadau’n perfformio neu faint o arian a dalwyd i mewn. Fel arfer, mae pensiwn gweithle wedi’i seilio ar sawl beth, er enghraifft eich cyflog a pha mor hir rydych wedi gweithio i’ch cyflogwr.

Bydd y darparwr pensiwn yn cytuno i roi swm penodol i chi bob blwyddyn pan fyddwch yn ymddeol.

Fel arfer, gallwch gymryd hyd at 25% o’r swm a gronnwyd mewn unrhyw bensiwn fel cyfandaliad rhydd o dreth. Y mwyaf y gallwch ei gymryd yw £268,275.

Os oes gennych lwfans wedi’i ddiogelu (yn agor tudalen Saesneg), gall hyn gynyddu swm y cyfandaliad rhydd o dreth y gallwch ei gymryd o’ch pensiynau.

Bydd pryd y gallwch gymryd eich cronfa bensiwn yn dibynnu ar reolau eich cynllun pensiwn – fel arfer, ni allwch gymryd eich pensiwn cyn i chi droi’n 55 (yn agor tudalen Saesneg).