Yr hyn sy’n rhydd o dreth

Fel arfer, os yw cyfanswm eich incwm blynyddol o dan eich Lwfans Personol, ni fydd angen i chi dalu unrhyw dreth.

Cyfandaliadau o’ch pensiwn

Fel arfer, gallwch gymryd hyd at 25% o’r swm a gronnwyd mewn unrhyw bensiwn fel cyfandaliad rhydd o dreth. Y mwyaf y gallwch ei gymryd yw £268,275.

Os oes gennych lwfans wedi’i ddiogelu, gall hyn gynyddu swm y cyfandaliad rhydd o dreth (yn agor tudalen Saesneg) y gallwch ei gymryd o’ch pensiynau.

Nid yw’r cyfandaliad rhydd o dreth yn cael effaith ar eich Lwfans Personol.

Caiff dreth ei didynnu o’r swm sy’n weddill cyn i chi ei gael.

Enghraifft: 

Mae gennych bensiwn sydd werth £60,000 yn ei gyfanrwydd. Rydych yn cymryd £15,000 yn rhydd o dreth. Mae’ch darparwr pensiwn yn didynnu treth o’r £45,000 sy’n weddill.

Bydd rheolau’ch pensiwn yn pennu pryd y gallwch gymryd eich pensiwn. Fel arfer, ni allwch gymryd eich pensiwn cyn i chi droi’n 55.

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu Treth Incwm ar y gyfradd uwch os cymerwch swm mawr o’ch pensiwn. Mae hefyd yn bosibl y bydd arnoch dreth ychwanegol ar ddiwedd y flwyddyn dreth.

Sut y gallwch gymryd eich pensiwn

Pensiwn sydd werth hyd at £10,000

Fel arfer, os yw pensiwn werth hyd at £10,000, gallwch ei gymryd yn ei gyfanrwydd. Yr enw a roddir ar hyn yw cyfandaliad ‘cronfa fechan’. Os dewiswch i wneud hyn, bydd 25% o’r swm hwn yn rhydd o dreth.

Fel arfer, gallwch gael y canlynol:

  • hyd at 3 chyfandaliad cronfa fechan o unrhyw bensiynau personol gwahanol sydd gennych

  • nifer ddiderfyn o gyfandaliadau cronfa fechan o unrhyw bensiynau gweithle gwahanol sydd gennych

Pensiwn sydd werth hyd at £30,000 ac yn cynnwys pensiwn buddiannau diffiniedig

Fel arfer, os oes gennych bensiynau preifat sydd werth £30,000 neu lai yn eu cyfanrwydd, gallwch gymryd y swm llawn sydd gennych yn eich pensiwn buddiannau diffiniedig neu’ch pensiwn cyfraniadau diffiniedig (yn agor tudalen Saesneg) fel cyfandaliad ‘cymudiad pitw’. Os dewiswch i wneud hyn, bydd 25% o’r swm hwn yn rhydd o dreth.

Os daw’r cyfandaliad hwn o fwy nag un pensiwn, bydd yn rhaid i chi wneud y canlynol:

  • cael y darparwr i brisio’r cynilion sydd gennych ym mhob cynllun – rhaid i hyn ddigwydd ar yr un diwrnod, a hynny ddim mwy na 3 mis cyn i chi gael y taliad cyntaf

  • cael pob taliad cyn pen 12 mis o’r taliad cyntaf

Os byddwch yn cymryd taliadau o bensiwn cyn cymryd y swm sy’n weddill fel cyfandaliad, bydd yn rhaid i chi dalu treth ar y cyfandaliad cyfan.

Arian parod o bensiwn cyfraniadau diffiniedig

Gwiriwch â’ch darparwr ynghylch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau diffiniedig. Gallwch gymryd:

  • yr holl arian a gronnwyd yn eich pensiwn fel arian parod

  • symiau llai o arian parod o’ch pensiwn

Fel arfer, gallwch gymryd hyd at 25% o’r swm a gronnwyd mewn unrhyw bensiwn fel cyfandaliad rhydd o dreth. Y mwyaf y gallwch ei gymryd yw £268,275.

Os oes gennych lwfans wedi’i ddiogelu, gall hyn gynyddu swm y cyfandaliad rhydd o dreth y gallwch ei gymryd o’ch pensiynau (yn agor tudalen Saesneg).

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu tâl treth ar arian a gaiff ei dalu i’ch pensiwn ar ôl i chi godi arian parod ohono.

Os yw’ch disgwyliad oes yn llai nag un flwyddyn

Mae’n bosibl y gallwch gymryd yr holl arian sydd yn eich pensiwn fel cyfandaliad rhydd o dreth os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol:

Byddwch yn talu Treth Incwm ar yr holl gyfandaliad, neu rywfaint ohono, os yw’r canlynol yn berthnasol:

Gwiriwch hyn gyda’ch darparwr pensiwn. Bydd rhai cronfeydd pensiwn yn cadw o leiaf 50% o’ch pensiwn ar gyfer eich priod neu’ch partner sifil.