Treth pan fyddwch yn cael pensiwn
Sut mae’ch treth yn cael ei thalu
Mae’r ffordd y mae treth yn cael ei thalu yn dibynnu ar y fath o bensiwn a gewch, a ph’un a oes gennych unrhyw incwm arall.
Os ydych yn cael Pensiwn y Wladwriaeth yn ogystal â phensiwn preifat
Fel arfer, bydd eich darparwr pensiwn yn didynnu unrhyw dreth sydd arnoch cyn eich talu chi. Bydd eich darparwr pensiwn hefyd yn didynnu unrhyw dreth sydd arnoch ar eich Pensiwn y Wladwriaeth.
Os ydych yn cael taliadau o fwy nag un darparwr (er enghraifft, taliadau o bensiwn gweithle a thaliadau o bensiwn preifat), bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn gofyn un o’ch darparwyr i ddidynnu’r dreth o’ch Pensiwn y Wladwriaeth.
Ar ddiwedd y flwyddyn dreth, byddwch yn cael ffurflen P60 gan eich darparwr pensiwn yn nodi faint o dreth a dalwyd gennych.
Os Pensiwn y Wladwriaeth yw’ch unig incwm
Os byddwch yn mynd dros eich Lwfans Personol a bod treth gennych i’w thalu, bydd CThEF yn anfon bil treth Asesiad Syml atoch. Bydd hyn yn rhoi gwybod i chi faint sydd arnoch a sut i’w dalu.
Ar ôl eich blwyddyn gyntaf o gael Pensiwn y Wladwriaeth, byddwch yn talu treth pob blwyddyn yn seiliedig ar 52 wythnos o daliadau.
Fel arfer, os yw’ch incwm o dan eich Lwfans Personol, ni fydd angen i chi dalu treth.
Os byddwch yn parhau i weithio
Fel arfer, bydd eich cyflogwr yn didynnu unrhyw dreth sy’n ddyledus o’ch enillion a’ch Pensiwn y Wladwriaeth. Yr enw a roddir ar hyn yw Talu Wrth Ennill (TWE).
Os ydych yn hunangyflogedig, mae’n rhaid i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar ddiwedd y flwyddyn dreth. Mae’n rhaid i chi ddatgan eich incwm cyffredinol, gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth ac arian o’ch pensiynau preifat, er enghraifft eich pensiwn gweithle.
Os oes gennych incwm arall
Rydych yn gyfrifol am dalu unrhyw dreth sydd arnoch ar unrhyw incwm a gewch, ac eithrio’r arian a gewch o’ch pensiynau. Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Os oes arnoch unrhyw dreth ar incwm o fuddsoddiadau, bydd CThEF yn anfon cyfrifiad atoch yn esbonio’r hyn sydd arnoch a sut i’w dalu.
Gallwch hawlio ad-daliad treth os ydych wedi talu gormod o dreth.
Codau treth
Fel arfer, os yw’ch incwm yn dod o un ffynhonnell yn unig, bydd gennych un cod treth.
Os yw’ch incwm yn dod o fwy nag un ffynhonnell, mae’n bosibl y bydd gennych fwy nag un cod treth.
Gallwch gywiro’ch cod treth os ydych o’r farn ei fod yn anghywir.