Talu’ch bil treth Asesiad Syml

Sgipio cynnwys

Trosolwg

Mae’n rhaid i chi dalu’ch bil treth Asesiad Syml os ydych wedi cael llythyr oddi wrth Gyllid a Thollau EF (CThEF).

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Mae’n bosibl y cewch lythyr Asesiad Syml os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • mae arnoch Dreth Incwm nad oes modd ei didynnu oddi wrth eich incwm yn awtomatig
  • mae arnoch £3,000 neu fwy i CThEF
  • mae’n rhaid i chi dalu treth ar eich Pensiwn y Wladwriaeth

Os ydych o’r farn bod unrhyw wybodaeth yn y llythyr yn anghywir, mae’n rhaid i chi gysylltu â CThEF cyn pen 60 diwrnod.

Gallwch ddysgu rhagor am eich bil treth Asesiad Syml, a’r hyn sydd angen i chi ei wneud os ydych o’r farn bod eich cyfrifiad treth yn anghywir.

Sut i dalu

Gallwch wneud y canlynol:

Pryd i dalu

Os byddwch yn cael llythyr Asesiad Syml:

  • cyn 31 Hydref 2024 (ar gyfer blwyddyn dreth 6 Ebrill 2023 i 5 Ebrill 2024) – mae’n rhaid i chi dalu yr hyn sydd arnoch erbyn 31 Ionawr 2025
  • ar neu ar ôl 31 Hydref 2024 (ar gyfer blwyddyn dreth 6 Ebrill 2023 i 5 Ebrill 2024 neu unrhyw flwyddyn dreth flaenorol) – mae’n rhaid i chi dalu’r hyn sydd arnoch cyn pen 3 mis i ddyddiad y llythyr hwn

Os na allwch dalu’ch bil treth Asesiad Syml mewn pryd

Bydd angen i chi gysylltu â CThEF. Efallai y bydd yn awgrymu eich bod yn talu’r hyn sydd arnoch fesul rhandaliad. Bydd angen y canlynol arnoch:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • manylion eich cyfrif banc yn y DU

Gallwch wneud hyn dim ond pan fydd y dyddiad cau ar gyfer talu wedi mynd heibio.

Bydd CThEF yn gofyn y canlynol i chi:

  • a allwch dalu’n llawn
  • a oes unrhyw drethi eraill y mae angen i chi eu talu
  • faint o arian rydych yn ei ennill
  • faint rydych yn ei wario, fel arfer, bob mis
  • pa gynilion neu fuddsoddiadau sydd gennych

Os oes gennych gynilion neu asedion, bydd CThEF yn disgwyl i chi ddefnyddio’r rhain i ostwng eich dyled cymaint â phosibl.