Talu’ch bil treth Asesiad Syml
Talu ar-lein
Gallwch dalu ar-lein drwy’r dulliau canlynol:
- cymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein – gofynnir i chi fewngofnodi i’ch cyfrif banc ar-lein
- cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol
Bydd ffi yn cael ei chodi os talwch â cherdyn credyd corfforaethol neu gerdyn debyd corfforaethol. Nid yw’r ffi yn ad-daladwy.
Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.
Os byddwch yn talu drwy’ch cyfrif banc ar-lein
Os byddwch yn dewis talu drwy eich cyfrif banc ar-lein, gallwch naill ai wneud taliad ar unwaith neu ddewis dyddiad talu. Mae angen i’r dyddiad fod cyn dyddiad dyledus eich taliad.
Gwiriwch eich cyfrif i wneud yn siŵr bod y taliad wedi mynd allan ar y dyddiad cywir. Os nad yw’r taliad wedi mynd allan yn ôl y disgwyl, cysylltwch â’ch banc.
Talu’ch bil treth Asesiad Syml ar-lein
Gofynnir i chi a ydych am fewngofnodi i’ch Cyfrif Treth Personol pan fyddwch yn defnyddio’r gwasanaeth ar-lein. Mae mewngofnodi’n gadael i chi weld a thalu unrhyw dreth sydd arnoch, ond rydych yn dal i allu talu heb fewngofnodi.
Os oes arnoch dreth o’r cyfnod cyn 6 Ebrill 2022, ni allwch weld a thalu treth gan ddefnyddio’ch Cyfrif Treth Personol.
Bydd angen y cyfeirnod talu sydd ar eich llythyr Asesiad Syml arnoch. Mae hwn yn 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’.
Gallwch dalu’r balans sy’n weddill yn llawn, neu, gallwch ei rannu’n daliadau llai. Mae’n rhaid i chi dalu’r hyn sydd arnoch erbyn y dyddiad cau sydd ar eich llythyr Asesiad Syml.
Talu drwy ap CThEF
Gallwch hefyd ddefnyddio ap CThEF i dalu’ch bil gan ddefnyddio gwasanaeth bancio ar-lein eich banc, neu ap eich banc.