Talu’ch bil treth Asesiad Syml

Sgipio cynnwys

Talu drwy drosglwyddiad banc

Gallwch dalu gan ddefnyddio gwasanaethau bancio ar-lein neu dros y ffôn, Taliadau Cyflymach, CHAPS neu Bacs.

Bydd angen y cyfeirnod talu sydd ar eich llythyr Asesiad Syml arnoch. Mae hwn yn 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’.

Fel arfer, bydd taliadau yn cyrraedd Cyllid a Thollau EF (CThEF) fel a ganlyn:

  • Taliadau Cyflymach – ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf
  • CHAPS – yr un diwrnod gwaith os ydych yn talu o fewn amserau prosesu’ch banc 
  • taliadau Bacs – cyn pen 3 diwrnod gwaith 

Gwiriwch amserau prosesu’ch banc, a’i derfynau o ran trafodion mwyaf, cyn i chi wneud taliad.

Gallwch dalu’r balans sy’n weddill yn llawn, neu, gallwch ei rannu’n daliadau llai. Mae’n rhaid i chi dalu’r hyn sydd arnoch erbyn y dyddiad cau sydd ar eich llythyr Asesiad Syml.

Os ydych yn talu o gyfrif banc yn y DU

Talwch i mewn i’r cyfrif hwn:

  • cod didoli - 08 32 10
  • rhif y cyfrif - 12001020
  • enw’r cyfrif - HMRC Shipley

Os ydych yn talu o gyfrif tramor

Defnyddiwch y manylion banc canlynol i dalu CThEF o gyfrif banc tramor:

  • Cod Adnabod y Busnes (BIC) - BARCGB22
  • rhif y cyfrif (IBAN) - GB03 BARC 2011 4783 9776 92
  • enw’r cyfrif - HMRC Shipley

Barclays Bank PLC
1 Churchill Place 
Llundain 
Y Deyrnas Unedig 
E14 5HP