Pensiynau personol
Trosolwg
Mae pensiynau personol yn bensiynau rydych yn eu trefnu i chi’ch hun. Weithiau fe’u gelwir yn bensiynau cyfraniadau diffiniedig (yn agor tudalen Saesneg) neu bensiynau ‘pryniannau arian’. Fel arfer, byddwch yn cael pensiwn sy’n seiliedig ar faint a dalwyd i mewn.
Mae rhai cyflogwyr yn cynnig pensiynau personol fel pensiynau gweithle (yn agor tudalen Saesneg).
Mae’r arian rydych yn ei dalu i mewn i bensiwn personol yn cael ei roi mewn buddsoddiadau (fel cyfranddaliadau) gan y darparwr pensiwn. Mae’r arian a gewch o bensiwn personol fel arfer yn dibynnu ar y canlynol:
-
faint sydd wedi’i dalu i mewn iddo
-
sut mae buddsoddiadau’r gronfa wedi perfformio - gallant fynd i fyny neu i lawr
-
sut rydych yn penderfynu cymryd eich arian
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Mathau o bensiwn personol
Mae gwahanol fathau o bensiwn personol. Maent yn cynnwys:
-
pensiynau rhanddeiliaid - mae’n rhaid i’r rhain fodloni gofynion penodol y llywodraeth, er enghraifft cyfyngiadau ar daliadau
-
pensiynau personol hunan-fuddsoddi (SIPPs) - mae’r rhain yn caniatáu i chi reoli’r buddsoddiadau penodol sy’n rhan o’ch cronfa bensiwn
Dylech wirio bod eich darparwr wedi’i gofrestru gyda’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA), neu’r Rheolydd Pensiwn os yw’n bensiwn rhanddeiliaid.
Talu i mewn i bensiwn personol
Gallwch naill ai wneud taliadau cyfandaliad rheolaidd neu unigol i ddarparwr pensiwn. Byddant yn anfon datganiadau blynyddol atoch, gan roi gwybod i chi faint yw gwerth eich cronfa.
Fel arfer byddwch yn cael gostyngiad treth ar arian rydych yn ei dalu i mewn i bensiwn (yn agor tudalen Saesneg). Gwiriwch â’ch darparwr bod eich cynllun pensiwn wedi’i gofrestru gyda Chyllid a Thollau EF (CThEF) - os nad yw wedi’i gofrestru, ni fyddwch yn cael rhyddhad treth.