Pensiynau personol
Dod o hyd i help
Cysylltwch â’ch darparwr pensiwn yn gyntaf os oes angen help arnoch gyda phensiwn personol.
Os na allant helpu, gallwch gael gwybodaeth yn rhad ac am ddim a diduedd gan MoneyHelper. Nid yw MoneyHelper yn darparu cyngor ariannol.
Cyngor ariannol
Gallwch ddod o hyd i gynghorydd ariannol os ydych eisiau cyngor. Fel arfer, bydd yn rhaid i chi dalu am eu gwasanaethau.
Os ydych dros 50 oed
Mae gan Pension Wise gwybodaeth am eich opsiynau pensiwn. Os ydych dros 50 oed, gallwch drefnu apwyntiad yn rhad ac am ddim i siarad am eich opsiynau. Nid yw Pension Wise yn cynnwys Pensiwn y Wladwriaeth, pensiwn ‘cyflog terfynol’ na phensiynau ‘cyfartaledd gyrfa’.
Pensiwn y Wladwriaeth
I gael help gyda’ch Pensiwn y Wladwriaeth cysylltwch â’r Gwasanaeth Pensiwn (yn agor tudalen Saesneg).