Pensiynau personol
Sut y gallwch gymryd eich pensiwn
Mae’r rhan fwyaf o bensiynau personol yn pennu oedran pan allwch ddechrau cymryd arian ganddynt. Nid yw fel arfer cyn 55. Cysylltwch â’ch darparwr pensiwn os nad ydych yn siŵr pryd y gallwch gymryd eich pensiwn.
Fel arfer, gallwch gymryd hyd at 25% o’r swm a gronnwyd mewn unrhyw bensiwn fel cyfandaliad rhydd o dreth. Y mwyaf y gallwch ei gymryd yw £268,275.
Os oes gennych lwfans wedi’i ddiogelu (yn agor tudalen Saesneg), gall hyn gynyddu swm y cyfandaliad rhydd o dreth y gallwch ei gymryd o’ch pensiynau.
Yna, bydd gennych 6 mis i ddechrau cymryd y 75% sy’n weddill, a byddwch fel arfer yn talu treth arno.
Mae’r opsiynau sydd gennych ar gyfer cymryd gweddill eich cronfa bensiwn yn cynnwys:
-
cymryd y cyfan neu rywfaint ohono fel arian parod
-
prynu cynnyrch sy’n rhoi incwm gwarantedig i chi (a elwir weithiau’n ‘blwydd-dal’) am oes
-
buddsoddi ynddo i gael incwm rheolaidd, addasadwy (a elwir weithiau’n ‘cyrchu’n hyblyg’)
Gofynnwch i’ch darparwr pensiwn pa opsiynau y maent yn eu cynnig (mae’n bosibl na fyddant yn cynnig nhw i gyd). Os nad ydych am gymryd unrhyw un o’u hopsiynau, gallwch drosglwyddo’ch cronfa bensiwn (yn agor tudalen Saesneg) i ddarparwr gwahanol.
Trethi a thaliadau
Bydd eich darparwr pensiwn yn dileu unrhyw dreth sy’n ddyledus gennych cyn i chi gael arian o’ch cronfa bensiwn.
Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu cyfradd uwch o dreth os cymerwch symiau mawr o’ch cronfa bensiwn. Mae hefyd yn bosibl y bydd arnoch dreth ychwanegol ar ddiwedd y flwyddyn dreth.
Mae’n bosibl y bydd eich darparwr pensiwn yn codi tâl arnoch am dynnu arian o’ch cronfa bensiwn yn ôl - gwiriwch â nhw am hyn.
Cael taliadau rheolaidd o flwydd-dal
Mae’n bosibl y byddwch yn gallu prynu blwydd-dal gan gwmni yswiriant sy’n rhoi taliadau rheolaidd am oes i chi. Gallwch ofyn i’ch darparwr pensiwn dalu amdano allan o’ch cronfa bensiwn.
Gall y swm a gewch amrywio. Mae’n dibynnu ar ba mor hir mae’r cwmni yswiriant yn disgwyl i chi fyw a faint o flynyddoedd y bydd yn rhaid iddynt eich talu. Pan fyddant yn cyfrifo’r swm y dylent ei ystyried:
-
eich oedran a’ch rhywedd
-
maint eich cronfa bensiwn
-
cyfraddau llog
-
eich iechyd (weithiau)
Mae yna wahanol fathau o flwydd-daliadau. Mae rhai am gyfnod penodol (er enghraifft, taliadau am 10 mlynedd yn lle eich oes) ac mae rhai’n parhau i dalu’ch priod neu’ch partner ar ôl i chi farw.
Nid oes rhaid i chi brynu’ch blwydd-dal oddi wrth eich darparwr pensiwn.
Buddsoddi’r arian mewn cronfa
Mae’n bosibl y gallwch ofyn i’ch darparwr pensiwn fuddsoddi’ch cronfa bensiwn mewn cronfa a gyrchir yn hyblyg.
O gronfa a gyrchir yn hyblyg, gallwch wneud y canlynol:
-
tynnu arian yn ôl
-
prynu blwydd-dal tymor byr - bydd hyn yn rhoi taliadau rheolaidd i chi am hyd at 5 mlynedd
-
talu i mewn - ond byddwch yn talu treth ar gyfraniadau dros y lwfans blynyddol pryniannau arian (yn agor tudalen Saesneg)
Cadw’ch cronfa wedi’i chapio
Os oes gennych ‘gronfa wedi’i chapio’ ac eisiau ei chadw, bydd eich arian yn parhau i gael ei fuddsoddi.
Gallwch ddal ati i dynnu’n ôl a thalu i mewn. Mae’ch darparwr pensiwn yn pennu uchafswm y gallwch ei gymryd bob blwyddyn. Bydd y terfyn hwn yn cael ei adolygu bob 3 blynedd nes i chi gyrraedd 75 oed, yna bob blwyddyn ar ôl hynny.
Tynnu arian allan o’ch cronfa bensiwn
Mae’n bosibl y gallwch gymryd arian parod yn uniongyrchol o’ch cronfa bensiwn. Gallwch wneud y canlynol:
-
tynnu eich cronfa bensiwn gyfan yn ôl
-
tynnu symiau arian parod llai allan
-
talu i mewn - ond byddwch yn talu treth ar gyfraniadau dros y lwfans blynyddol pryniannau arian (yn agor tudalen Saesneg)