Newid dosbarth treth eich cerbyd
Newidiadau i gerbydau sy'n effeithio ar dreth
Os byddwch yn gwneud newidiadau i’ch cerbyd gallai effeithio ar:
- faint o dreth cerbyd rydych yn talu
- dosbarth treth eich cerbyd
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Mae newidiadau sy’n effeithio ar eich cerbyd yn cynnwys:
- maint yr injan (cc)
- y math o danwydd
- y pwysau (cerbydau nwyddau yn unig)
- nifer y seddi (bysiau yn unig)
- ar gyfer beth rydych chi’n defnyddio’r cerbyd, er enghraifft defnyddio bws mini i wneud elw
Ni fydd yn rhaid ichi dalu treth cerbyd, neu byddwch yn talu cyfradd is, os yw’n cael ei defnyddio gan:
- berson anabl
- sefydliad sy’n darparu cludiant i bobl anabl
Sut i newid dosbarth treth eich cerbyd
Mae sut y byddwch yn newid dosbarth treth eich cerbyd yn dibynnu ar y canlynol:
- os yw’r dreth ar fin dod i ben (rydych wedi cael nodyn atgoffa neu lythyr rhybudd ‘cyfle olaf’)
- os nad yw’r dreth ar fin dod i ben
- os ydych yn newid p’un ai bod y cerbyd wedi’i eithrio rhag treth cerbyd neu beidio, er enghraifft yn newid car i mewn neu allan o’r dosbarth treth i bobl anabl