Newid dosbarth treth eich cerbyd
Cyfrifo'r gyfradd dreth newydd
Mae angen ichi gyfrifo a fydd angen ichi dalu mwy o dreth oherwydd y newid.
-
Darganfod y gyfradd newydd o dreth cerbyd.
-
Cyfrifo’r gwahaniaeth rhwng cyfraddau hen a newydd eich treth cerbyd. Er enghraifft, os yw’r hen gyfradd yn £100 a’r gyfradd newydd yn £130, y gwahaniaeth yw £30.
-
Rhannu’r gwahaniaeth â nifer y misoedd y byddwch yn talu eich treth. Er enghraifft, £30 wedi’i rannu â 12 mis yw £2.50.
-
Lluosi hwn â nifer y misoedd sy’n weddill ar y dreth. Er enghraifft, £2.50 wedi’i luosi â 4 mis yw £10.
-
Talu’r dreth cerbyd ychwanegol. Yn yr enghraifft hon byddai angen ichi dalu £10 o dreth ychwanegol.
Os bydd y gyfradd dreth yn cynyddu
Mae’n rhaid ichi dalu’r gyfradd uwch o ddiwrnod cyntaf y mis y byddwch yn newid y gyfradd dreth ynddo.
Er enghraifft Os byddwch yn newid y dosbarth treth ar 25 Mawrth, bydd yn rhaid ichi dalu’r gyfradd uwch o 1 Mawrth.
Os bydd y gyfradd dreth yn gostwng
Rydych yn talu’r gyfradd ostyngol o ddiwrnod cyntaf y mis nesaf.
Er enghraifft Os byddwch yn newid y dosbarth treth ar 25 Mawrth, byddwch yn talu’r gyfradd ostyngol o 1 Ebrill.