Newid dosbarth treth eich cerbyd
Y dreth ddim ar fin dod i ben
Defnyddiwch ffurflen V70W i newid dosbarth treth eich cerbyd os nad yw’r dreth ar fin dod i ben.
Rydych yn gwneud cais mewn ffordd wahanol os ydych chi wedi cael llythyr atgoffa neu lythyr rhybudd ‘cyfle olaf’.
Beth i’w hanfon
Anfonwch y ffurflen i DVLA gyda:
- thystysgrif gofrestru cerbyd V5CW (llyfr log) gydag unrhyw newidiadau wedi’u nodi arni
- siec neu archeb bost yn daladwy i ‘DVLA, Abertawe’ am unrhyw dreth cerbyd ychwanegol y mae’n rhaid ichi dalu - ni dderbynnir sieciau sydd wedi’u difrodi neu sydd wedi’u newid
- prawf o MOT gyfredol (os oes angen un ar eich cerbyd) - er enghraifft, copi o hanes MOT eich cerbyd neu’ch tystysgrif MOT, os oes gennych un
- prawf ysgrifenedig os ydych wedi lleihau maint yr injan neu wedi newid y math o danwydd, er enghraifft derbynneb injan newydd neu lythyr gan y garej a wnaeth y newid
Os ydych yng Ngogledd Iwerddon, mae hefyd angen ichi anfon:
- tystysgrif MOT sy’n ddilys pan fydd y dreth yn dechrau
- tystysgrif yswiriant neu nodyn sicrwydd
Os nad yw’r V5CW gennych, lawrlwythwch a llenwch ffurflen V62W. Anfonwch i DVLA gyda’r ffi o £25.
DVLA
Abertawe
SA99 1BF
Lorïau a bysiau
Mae angen ichi hefyd anfon y canlynol os oes eu hangen ar gyfer eich cerbyd:
- tystysgrif platio neu bwysau
- ar gyfer bysiau yn unig - tystysgrif ffitrwydd cychwynnol, tystysgrif cydymffurfio neu gyfwerth PSV401, PSV408, PDV500 neu PSV506
Beth sy’n digwydd nesaf
-
Byddwch yn cael cadarnhad gan DVLA bod y newid wedi cael ei wneud.
-
Bydd DVLA yn anfon V5CW sydd wedi’i diweddaru atoch.
-
Byddwch yn derbyn ad-daliad os oes un yn ddyledus ichi.
Gallwch barhau i ddefnyddio’ch cerbyd tra bod eich cais yn cael ei brosesu.