Talu treth

Mae faint o dreth y byddwch yn ei thalu a ble rydych yn ei thalu yn dibynnu ar ble yr ystyrir eich bod yn breswylydd.

Preswylwyr y DU

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu treth y DU ar eich Pensiwn y Wladwriaeth os ydych yn byw dramor ond yn cael eich ystyried yn breswylydd y DU at ddibenion treth. Mae’r swm rydych yn ei dalu yn dibynnu ar eich incwm.

Preswylwyr tramor

Efallai y cewch eich trethu ar eich Pensiwn y Wladwriaeth gan y DU a’r wlad lle rydych yn byw.

Os ydych yn talu treth ddwywaith, fel arfer gallwch hawlio gostyngiad treth i gael y cyfan neu rywfaint ohono’n ôl.

Os oes gan y wlad rydych yn byw ynddi ‘gytundeb trethiant dwbl’ gyda’r DU, dim ond unwaith y byddwch yn talu treth ar eich pensiwn. Gall hyn fod i’r DU neu’r wlad lle rydych yn byw, yn dibynnu ar gytundeb treth y wlad honno.