Pensiwn y Wladwriaeth os ydych yn ymddeol dramor

Skip contents

Gwneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth dramor

Gallwch wneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth dramor os ydych wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol y DU i fod yn gymwys.

Efallai y byddwch hefyd yn gymwys os rydych wedi byw neu weithio dramor.

Dylech gael Rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth os ydych angen darganfod faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English)

Gwneud cais

Rhaid i chi fod o fewn 4 mis i’ch oedran Pensiwn y Wladwriaeth i wneud cais.

I wneud cais am eich pensiwn, gallwch naill ai:

Os ydych hefyd am wneud cais am bensiwn y wladwriaeth o wlad arall

Efallai y gallwch wneud un cais i’r Ganolfan Bensiwn Ryngwladol neu’r wlad rydych yn byw ynddi. Yna gellir dweud wrth gynlluniau pensiwn y wladwriaeth mewn gwledydd eraill rydych wedi byw neu weithio ynddynt eich bod wedi gwneud cais.

Os dywedir wrthynt, bydd y cynlluniau eraill hynny’n rhoi gwybod i chi os ydych yn gymwys. Ni fydd angen i chi wneud ceisiadau ar wahân iddynt.

Mae hyn yn berthnasol i gynlluniau pensiwn y wladwriaeth yn:

  • yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) – mae hyn yn cynnwys unrhyw wlad yn yr UE yn ogystal â Norwy, Gwlad yr Iâ a Liechtenstein
  • y Swistir
  • unrhyw wlad sydd â chytundeb nawdd cymdeithasol gyda’r DU, ar wahân i Canada a Seland Newydd

Os ydych yn byw yn un o’r gwledydd hyn a’ch bod yn gymwys i gael pensiwn y wladwriaeth yno, gwnewch gais i’w cynllun pensiwn y wladwriaeth. Byddant yn trosglwyddo eich manylion i:

  • y Deyrnas Unedig
  • cynlluniau pensiwn y wladwriaeth eraill yn yr AEE neu’r Swistir, os gwnaethoch gais yno

Fel arall, pan fyddwch yn gwneud cais i’r Ganolfan Bensiwn Ryngwladol, byddant yn trosglwyddo’ch manylion i holl gynlluniau pensiwn y wladwriaeth ar y rhestr.

Os ydych chi am wneud cais am bensiynau’r wladwriaeth o unrhyw wledydd eraill sydd heb gael eu henwi, gan gynnwys Canada a Seland Newydd, gwnewch gais i’w cynlluniau pensiwn ar wahân.

Os ydych yn byw rhan o’r flwyddyn dramor

Mae’n rhaid i chi ddewis ym mha wlad rydych am i’ch pensiwn gael ei dalu ynddi. Ni allwch gael eich talu mewn un wlad am ran o’r flwyddyn ac un arall am weddill y flwyddyn.

Cyfrifon banc y gellir talu eich pensiwn iddynt

Gellir talu eich Pensiwn y Wladwriaeth i:

  • fanc yn y wlad rydych yn byw ynddi
  • banc neu gymdeithas adeiladu yn y DU

Gallwch ddefnyddio:

  • cyfrif yn eich enw chi
  • cyfrif ar y cyd
  • cyfrif rhywun arall - os oes gennych eu caniatâd ac yn cadw at delerau ac amodau’r cyfrif

Byddwch angen rhif cyfrif banc rhyngwladol (IBAN) a rhifau cod adnabod banc (BIC) os oes gennych gyfrif tramor.

Byddwch yn cael eich talu mewn arian lleol - gallai’r swm a gewch newid oherwydd cyfraddau cyfnewid.

Pryd fyddwch yn cael eich talu

Gallwch ddewis cael eich talu bob 4 neu 13 wythnos.

Os yw eich Pensiwn y Wladwriaeth o dan £5 yr wythnos, byddwch yn cael eich talu unwaith y flwyddyn ym mis Rhagfyr.

Oedi i daliadau o amgylch gwyliau ffederal yr Unol Daleithiau

Os ydych yn byw dramor a bod eich taliad yn ddyledus yn yr un wythnos â gwyliau ffederal yr Unol Daleithiau, gallai gyrraedd un diwrnod yn hwyr. Mae hyn oherwydd bod cwmni o’r Unol Daleithiau yn prosesu’r taliadau hyn.