Pensiwn y Wladwriaeth os ydych yn ymddeol dramor

Skip contents

Rhoi gwybod am newid yn eich amgylchiadau

Dylech roi gwybod am newidiadau (fel newid cyfeiriad neu fanylion banc) i’r Ganolfan Bensiwn Ryngwladol dros y ffôn neu’n ysgrifenedig - peidiwch ag anfon newidiadau drwy e-bost.

Os gofynnir i chi lenwi ‘tystysgrif bywyd’

Efallai y cewch ffurflen ‘tystysgrif bywyd’ gan yr Adran Gwaith a Phensiynau i wirio eich bod yn dal yn gymwys i gael Pensiwn y Wladwriaeth.

Mae angen i chi gael y ffurflen wedi’i lofnodi gan dyst. Mae’r cyfarwyddiadau ar y ffurflen.

Nid oes rhaid i’ch tyst fyw yn y DU na chael pasbort o unrhyw wlad benodol.

Mae’r bobl sy’n gallu llofnodi’r ffurflen yr un fath â’r rhai sy’n gallu ‘cyd-lofnodi llun pasbort.

Efallai y bydd eich taliadau yn cael eu hatal os na fyddwch yn anfon y ffurflen yn ôl.

Dychwelyd i’r Deyrnas Unedig

Cysylltwch â’r Gwasanaeth Pensiwn - byddwch angen eich dyddiad dychwelyd a’ch manylion cyswllt, dramor ac yn y DU.

Ffoniwch Cyllid a Thollau EF (CThEF) i ddweud eich bod yn dychwelyd i’r DU.