Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth
Beth fyddwch yn ei gael
Nid oes unrhyw swm sefydlog ar gyfer Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth.
Bydd faint a gewch yn dibynnu ar:
- faint o flynyddoedd rydych wedi talu Yswiriant Gwladol ar gyfer
- eich enillion
- p’un ai ydych wedi contractio allan o’r cynllun.
- os ydych wedi talu swm ychwanegol ar gyfer eich Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth (roedd hyn ond yn bosibl rhwng 12 Hydref 2015 a 5 Ebrill 2017)
Cael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth i ddarganfod faint y gallech ei gael.
Sut y cewch eich talu
Mae’r Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth yn cael ei dalu gyda’ch Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth i mewn i’ch cyfrif banc.