Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth
Contractio allan
Gallech ond contractio allan o Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth os oedd eich cyflogwr yn rhedeg cynllun pensiwn contractio-allan. Gwiriwch gyda nhw.
Tra roeddech yn aelod o bensiwn gweithle oedd wedi ei gontractio allan, nid oeddech yn cyfrannu tuag at Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth. Mewn rhai achosion, gallech gael Ail Bensiwn y Wladwriaeth hyd yn oed os na wnaethoch gyfrannu, er enghraifft, os oedd eich enillion yn isel.
Ni allwch gontractio allan ar ôl 6 Ebrill 2016. Os oeddech wedi eich contractio allan, roedd eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol wedi cynyddu i’ch cyfradd safonol ar ôl y dyddiad hwn.
Mae’r pensiwn ychwanegol a gewch o gynllun pensiwn wedi’i gontractio-allan fel arfer yr un fath, neu’n fwy na’r Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth y byddech wedi’i gael pe na fyddech wedi eich contractio allan.
Edrychwch i weld os oeddech wedi eich contractio allan
Gallwch ddarganfod os oeddech wedi eithrio trwy:
- edrych ar hen slip cyflog
- ffonio eich darparwr pensiwn
Efallai bydd y Gwasanaeth Olrhain Pensiwn yn gallu dod o hyd i fanylion cyswllt eich darparwr pensiwn os ydych wedi colli cysylltiad â hwy.
Yswiriant Gwladol wrth gontractio allan
Gwnaethoch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol is tra roeddech wedi contractio allan os:
- roeddech yn ennill rhwng £155 a £770 yr wythnos
- roeddech o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth
- ni wnaethoch dalu Yswiriant Gwladol ar gyfradd is
Beth sy’n digwydd pan fyddwch yn ymddeol
Byddwch yn cael pensiwn gan gynllun pensiwn gweithle eich cyflogwr.