Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth

Sgipio cynnwys

Etifeddu Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth

Os bydd eich priod neu bartner sifil yn marw, efallai byddwch yn gallu etifeddu rhan o’u Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth. Cysylltwch â’r Gwasanaeth Pensiwn i wirio beth y gallech wneud cais am a sut i wneud hynny.

Uchafswm Ail Bensiwn y Wladwraieth y gallwch ei etifeddu

Gallwch etifeddu hyd at 50% o Ail Bensiwn y Wladwriaeth eich priod neu bartner sifil.

Uchafswm pensiwn SERPS a thalu ar ben Pensiwn y Wladwriaeth y gallwch ei etifeddu

Mae’r uchafswm y gallwch ei etifeddu yn dibynnu ar bryd bu farw eich priod neu bartner sifil.

Os gwnaethant farw cyn 6 Hydref 2002, gallwch etifeddu hyd at 100% o’u pensiwn SERPS.

Os gwnaethant farw ar neu ar ôl 6 Hydref 2002, mae’r uchafswm pensiwn SERPS ac ychwanegiad Pensiwn y Wladwriaeth y gallwch ei etifeddu yn dibynnu ar eu dyddiad geni.

Dyddiad geni dyn Dyddiad geni dynes Mwyafswm % o SERPS a thalu ar ben Pensiwn y Wladwriaeth y gallwch ei etifeddu
5 Hydref 1937 neu cyn 5 Hydref 1942 neu cyn 100%
6 Hydref 1937 i 5 Hydref 1939 6 Hydref 1942 i 5 Hydref 1944 90%
6 Hydref 1939 i 5 Hydref 1941 6 Hydref 1944 i 5 Hydref 1946 80%
6 Hydref 1941 i 5 Hydref 1943 6 Hydref 1946 i 5 Hydref 1948 70%
6 Hydref 1943 i 5 Hydref 1945 6 Hydref 1948 i 5 Gorffennaf 1950 60%
6 Hydref 1945 ac ar ôl 6 Gorffennaf 1950 ac ar ôl 50%

Os bu eich priod neu bartner sifil farw o fewn 90 diwrnod o dalu ar ben eu Pensiwn y Wladwriaeth, dylai’r taliad fod wedi cael ei ad-dalu i’w ystâd (cyfanswm eu heiddo ac arian), llai unrhyw daliadau a gawsant cyn iddynt farw. Mae hyn yn golygu na fyddwch yn etifeddu y rhan talu ar ben fel rhan o’u Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth.

Sut y caiff ei dalu

Bydd unrhyw Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth rydych yn ei etifeddu yn cael ei dalu ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Os ydych yn cael Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth eich hunan

Yr uchafswm o Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth y gallech gael yw £218.39 yr wythnos. Nid yw’r terfyn yn cynnwys talu ar ben Pensiwn y Wladwriaeth.

Os ydych yn cael Lwfans Rhiant Gweddw

Efallai y byddwch yn etifeddu Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth cyn i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Byddwch yn stopio ei gael os bydd eich Lwfans Rhiant Gweddw yn dod i ben.

Efallai y byddwch yn ei gael eto pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth os oeddech dros 45 pan roedd gennych hawl i gael Lwfans Rhiant Gweddw.

Os daeth eich Lwfans Rhiant Gweddw neu Lwfans Profedigaeth i ben cyn i chi fod yn 55, cewch lai o Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth.

Pan na allwch etifeddu Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth

Ni allwch etifeddu Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth eich priod neu bartner sifil os ydych yn ail-briodi neu’n ffurfio partneriaeth sifil arall cyn i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Mae’r dyddiad rydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth hefyd yn effeithio ar p’un ai os allech etifeddu Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth.

Os gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2010

Ni allwch etifeddu Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth eich priod neu bartner sifil os gwnaethant farw cyn iddynt gyrraedd eu hoedran Pensiwn y Wladwriaeth ac ar ôl i chi gyrraedd eich un chi.

Nid yw hyn yn gymwys os ydych yn ddynes oedd yn briod â:

  • dyn
  • dynes a newidiodd ei rhyw o ddyn i ddynes yn gyfreithiol yn ystod eich priodas

Os gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2016

Ni allwch etifeddu Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth eich priod neu bartner sifil os naill a’i:

  • bu farw eich priod neu bartner sifil ar neu ar ôl 6 Ebrill 2016 ac wedi cyrraedd (neu y byddant wedi cyrraedd) oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2016
  • gwnaethoch ddechrau eich priodas neu bartneriaeth sifil ar neu ar ôl 6 Ebrill 2016