Delio ag ystâd rhywun sydd wedi marw

Sgipio cynnwys

Rhoi gwybod i CThEF am incwm ystâd

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi anfon gwybodaeth at Gyllid a Thollau EF (CThEF) am incwm yr ystâd o’r diwrnod ar ôl y farwolaeth hyd at y dyddiad yr oedd popeth wedi’i drosglwyddo i’r buddiolwyr (y ‘cyfnod gweinyddu’).

Mae’r hyn y mae angen i chi ei anfon yn dibynnu ar y canlynol:

  • gwerth yr ystâd
  • faint o incwm a gynhyrchwyd gan yr ystâd yn ystod y cyfnod hwn
  • a oes unrhyw dreth i’w thalu

Pryd nad oes yn rhaid i chi roi gwybod am yr ystâd

Hyd at 5 Ebrill 2024, os mai llog o gyfrif banc oedd yr unig incwm a gafodd yr ystâd yn ystod y cyfnod gweinyddu, a hynny’n llai na £500, nid oes rhaid i chi roi gwybod i CThEF am yr ystâd.

O 6 Ebrill 2024 ymlaen, os yw incwm yr ystâd yn llai na £500 o unrhyw ffynhonnell, nid oes angen i chi roi gwybod i CThEF am yr ystâd.

Mae’r swm sy’n rhydd o dreth, sef £500, yn berthnasol i’r canlynol:

  • pob blwyddyn dreth yn ystod y cyfnod gweinyddu, ond ni allwch drosglwyddo unrhyw swm nas defnyddiwyd o un flwyddyn i’r un nesaf
  • pob math o incwm, heblaw am gyfrifon ISA, sy’n dal i fod yn esempt rhag Treth Incwm neu Dreth Enillion Cyfalaf hyd nes bod yr ystâd wedi’i chau neu hyd at 3 blynedd ar ôl marwolaeth y person

Rhoi gwybod am ystadau ‘syml’

Os yw pob un o’r canlynol yn berthnasol, dylech roi gwybod am dreth sy’n ddyledus yn ystod y cyfnod gweinyddu drwy ysgrifennu at CThEF (yr enw ar hyn yw ‘trefniadau anffurfiol’):

  • cafodd gwerth yr ystâd ei nodi fel llai na £2.5 miliwn pan fu’r person farw
  • mae cyfanswm y Dreth Incwm a’r Dreth Enillion Cyfalaf sy’n ddyledus yn llai na £10,000
  • ni wnaethoch werthu mwy na gwerth £500,000 o asedion mewn unrhyw flwyddyn dreth unigol yn ystod y cyfnod gweinyddu

I roi gwybod am yr ystâd, anfonwch lythyr at CThEF ar ddiwedd y cyfnod gweinyddu gan gynnwys:

  • eich enw, cyfeiriad a rhif ffôn
  • enw, cyfeiriad, rhif Yswiriant Gwladol, a Chyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) y person a fu farw
  • unrhyw Dreth Incwm a Threth Enillion Cyfalaf sy’n ddyledus o hyd ar gyfer y cyfnod gweinyddu cyfan
  • unrhyw Dreth Incwm a Threth Enillion Cyfalaf yr ydych wedi rhoi gwybod amdanynt ac wedi eu talu yn ystod y cyfnod gweinyddu, er enghraifft os gwnaethoch werthu eiddo

Talu Wrth Ennill a Hunanasesiad
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC BX9 1ST
Y Deyrnas Unedig

Bydd CThEF wedyn yn anfon manylion atoch ar sut i dalu unrhyw dreth sy’n ddyledus gan yr ystâd.

Rhoi gwybod am ystadau ‘cymhleth’

Os na allwch ddefnyddio trefniadau anffurfiol mae’n rhaid i chi gofrestru’r ystâd ar-lein ac anfon Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer yr ystâd.

Mae’n rhaid i chi gofrestru erbyn 5 Hydref ar ôl y flwyddyn dreth rydych yn anfon Ffurflen Dreth ar ei chyfer.

Er enghraifft, i anfon Ffurflen Dreth ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024 (sy’n dod i ben ar 5 Ebrill 2024) mae’n rhaid i chi gofrestru erbyn 5 Hydref 2024.

I gofrestru ystâd, bydd angen y canlynol arnoch:

  • cyfrif Porth y Llywodraeth fel ‘Sefydliad’ – gallwch greu hyn cyn i chi fewngofnodi am y tro cyntaf
  • cyfeiriad e-bost
  • eich manylion, gan gynnwys eich rhif Yswiriant Gwladol neu rif pasbort
  • manylion y person a fu farw, gan gynnwys rhif Yswiriant Gwladol y person hwnnw

Bydd arnoch angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) ar gyfer Porth y Llywodraeth ar wahân ar gyfer pob ystâd yr ydych yn ei chofrestru.

Os ydych yn asiant bydd angen i chi ddefnyddio’ch cyfrif gwasanaethau asiant. Bydd angen caniatâd gan y cynrychiolydd personol arnoch i allu cael at fanylion yr ystâd.

Cofrestru ystâd ar-lein.

Ar ôl i chi gofrestru, byddwch yn gallu cadw rheolaeth ar wybodaeth am yr ystâd.

Mewngofnodwch i’ch cyfrif er mwyn:

  • diweddaru eich manylion
  • diweddaru manylion yr ystâd
  • penodi asiant
  • cau’r ystâd ar ôl iddi gael ei rhannu

Ar ôl i chi gofrestru ystâd

Bydd CThEF yn anfon UTR atoch ar gyfer yr ystâd cyn pen 15 diwrnod gwaith. Defnyddiwch hwn i wneud un o’r canlynol:

Mae’n rhaid i chi dalu unrhyw dreth sy’n ddyledus erbyn y 31 Ionawr nesaf yn dilyn y flwyddyn dreth yn eich Ffurflen Dreth (yr un dyddiad cau sydd ar gyfer cyflwyno Ffurflen Dreth ar-lein).