Delio ag ystâd rhywun sydd wedi marw
Printable version
1. Trosolwg
Fel cynrychiolydd personol (ysgutor neu weinyddwr) rydych yn gyfrifol yn gyfreithiol am arian, eiddo a meddiannau’r person a fu farw (‘asedion yr ystâd’).
Rydych yn gyfrifol am yr asedion o ddyddiad y farwolaeth hyd nes y dyddiad mae bob dim wedi eu trosglwyddo i’r buddiolwyr. Gelwir hyn y ‘cyfnod gweinyddu’.
Efallai bydd yn rhaid i chi wneud cais am brofiant cyn eich bod yn gallu delio â rhai asedion.
Mae’n bosibl bydd yn rhaid i chi wneud y canlynol yn ystod y cyfnod gweinyddu:
- talu unrhyw ddyledion a adawyd gan y person a fu farw
- gwerthu asedion megis eiddo neu gyfranddaliadau
- talu Treth Incwm ar bethau megis incwm rhent o eiddo, elw o fusnes neu log o fuddsoddiadau
- talu Treth Enillion Cyfalaf ar elw o werthu cyfranddaliadau, buddsoddiadau neu eiddo
- rhoi gwybod am werth ystâd, incwm a rhwymedigaeth treth i Gyllid a Thollau EF
Gallwch gael cyngor a help cyfreithiol proffesiynol (yn agor tudalen Saesneg), megis gan gyfreithiwr, er mwyn delio ag unrhyw ystâd. Dylech ystyried hyn os oes gan yr ystâd llawer o asedion neu mae’n cynnwys pethau fel ymddiriedolaethau.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Os ydych yn delio ag ystâd gyda rhywun arall
Os nad ydych yr unig gynrychiolydd personol dylech gytuno gyda’r lleill:
- ble i gadw asedion ariannol - gallwch agor cyfrif banc a elwir yn ‘cyfrif ysgutoriaeth’ os oes angen
- rheolau ar godi arian neu wneud taliadau o unrhyw cyfrif sy’n gysylltiedig â’r ystâd
- pa asedion y mae angen i chi eu gwerthu a phryd
2. Setlo dyledion a threthi
Mae’n rhaid i chi dalu unrhyw ddyledion a setlo’r trethi ar gyfer y person a fu farw. Mae hyn yn cynnwys:
- talu unrhyw filiau sydd heb eu talu
- talu unrhyw drethi personol sydd heb eu talu
- gwneud cais am ad-daliadau treth
- llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer enillion a gafodd y person cyn marw os oes angen
- ad-dalu unrhyw fudd-daliadau a ordalwyd
Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn rhoi gwybod i chi pa drethi sy’n ddyledus neu a oes unrhyw ad-daliadau i’w talu i chi os ydych yn defnyddio’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith.
Rhowch hysbysiad yn y Gazette (yn agor tudalen Saesneg) yn rhoi 2 fis i unrhyw gredydwyr hawlio’r hyn sy’n ddyledus iddynt. Peidiwch â rhannu allan asedion yr ystâd hyd nes mae’r 2 fis wedi dod i ben. Os nad ydych y disgwyl a bod yr ystâd methu talu dyled, efallai bydd yn rhaid i chi ei dalu eich hun.
Trethi eraill y gallai fod angen i chi eu talu
Rhaid i chi hefyd wirio os oes angen i chi wneud y canlynol:
- talu treth ar unrhyw incwm newydd y mae’r ystâd yn ei gynhyrchu ar ôl i’r person farw
- talu Treth Etifeddiant
3. Rheoli a gwerthu asedion
Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu trethi ar gyfer yr ystâd os oes unrhyw incwm newydd tra byddwch yn delio â hi, er enghraifft elw o werthu pethau fel cyfranddaliadau neu eiddo, neu ddifidendau o fuddsoddiadau.
Gwerthu cyfranddaliadau neu eiddo
Os ydych yn gwerthu cyfranddaliadau, buddsoddiadau neu eiddo sy’n perthyn i’r ystâd, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf arnynt naill ai:
- os ydynt wedi cynyddu mewn gwerth ers i’r person farw
- os ydynt wedi cynyddu mewn gwerth ers cael eu prisio ar gyfer Treth Etifeddiant
Nid ydych yn talu Treth Enillion Cyfalaf o’r ystâd os ydych yn trosglwyddo asedion yn uniongyrchol i fuddiolwr, er enghraifft eiddo.
Darllenwch arweiniad ar y canlynol:
- treth pan fyddwch yn gwerthu eiddo
- treth pan fyddwch yn gwerthu cyfranddaliadau (yn agor tudalen Saesneg)
- Cyfraddau a lwfansau Treth Enillion Cyfalaf ar gyfer ystadau (yn agor tudalen Saesneg)
- sut mae Treth Enillion Cyfalaf yn berthnasol pan fydd rhywun yn marw (yn agor tudalen Saesneg)
Os oes arnoch ddyled o Dreth Enillion Cyfalaf ar eiddo preswyl, fel arfer mae’n rhaid i chi roi gwybod am hyn cyn pen 60 diwrnod.
Os ydych yn gwerthu tir neu eiddo, mae’n rhaid i chi hefyd diweddaru’r gofrestr eiddo gyda Chofrestrfa Tir EF.
Cynilion, difidendau neu incwm arall
Gall rhai asedion barhau i gynhyrchu incwm ar ôl y farwolaeth nes i chi eu trosglwyddo neu eu gwerthu. Gallai hyn gynnwys:
- incwm rhent o eiddo
- elw a thaliadau o fasnach neu fusnes y person a fu farw
- taliadau llog neu ddifidend ar gynilion, cyfranddaliadau a buddsoddiadau eraill
Mae’n rhaid i chi gyfrifo a thalu Treth Incwm ar y swm llawn o incwm y mae’r ystâd yn ei gael rhwng y diwrnod ar ôl y farwolaeth a’r dyddiad y dosbarthwyd popeth.
Nid yw ystadau yn cael unrhyw lwfansau ar gynilion, incwm neu ddifidendau. Mae ystadau yn talu treth ar y cyfraddau sylfaenol o 8.75% ar ddifidendau ac 20% ar unrhyw incwm arall.
4. Rhoi gwybod i CThEF am incwm ystâd
Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi anfon gwybodaeth at Gyllid a Thollau EF (CThEF) am incwm yr ystâd o’r diwrnod ar ôl y farwolaeth hyd at y dyddiad yr oedd popeth wedi’i drosglwyddo i’r buddiolwyr (y ‘cyfnod gweinyddu’).
Mae’r hyn y mae angen i chi ei anfon yn dibynnu ar y canlynol:
- gwerth yr ystâd
- faint o incwm a gynhyrchwyd gan yr ystâd yn ystod y cyfnod hwn
- a oes unrhyw dreth i’w thalu
Pryd nad oes yn rhaid i chi roi gwybod am yr ystâd
Hyd at 5 Ebrill 2024, os mai llog o gyfrif banc oedd yr unig incwm a gafodd yr ystâd yn ystod y cyfnod gweinyddu, a hynny’n llai na £500, nid oes rhaid i chi roi gwybod i CThEF am yr ystâd.
O 6 Ebrill 2024 ymlaen, os yw incwm yr ystâd yn llai na £500 o unrhyw ffynhonnell, nid oes angen i chi roi gwybod i CThEF am yr ystâd.
Mae’r swm sy’n rhydd o dreth, sef £500, yn berthnasol i’r canlynol:
- pob blwyddyn dreth yn ystod y cyfnod gweinyddu, ond ni allwch drosglwyddo unrhyw swm nas defnyddiwyd o un flwyddyn i’r un nesaf
- pob math o incwm, heblaw am gyfrifon ISA, sy’n dal i fod yn esempt rhag Treth Incwm neu Dreth Enillion Cyfalaf hyd nes bod yr ystâd wedi’i chau neu hyd at 3 blynedd ar ôl marwolaeth y person
Rhoi gwybod am ystadau ‘syml’
Os yw pob un o’r canlynol yn berthnasol, dylech roi gwybod am dreth sy’n ddyledus yn ystod y cyfnod gweinyddu drwy ysgrifennu at CThEF (yr enw ar hyn yw ‘trefniadau anffurfiol’):
- cafodd gwerth yr ystâd ei nodi fel llai na £2.5 miliwn pan fu’r person farw
- mae cyfanswm y Dreth Incwm a’r Dreth Enillion Cyfalaf sy’n ddyledus yn llai na £10,000
- ni wnaethoch werthu mwy na gwerth £500,000 o asedion mewn unrhyw flwyddyn dreth unigol yn ystod y cyfnod gweinyddu
I roi gwybod am yr ystâd, anfonwch lythyr at CThEF ar ddiwedd y cyfnod gweinyddu gan gynnwys:
- eich enw, cyfeiriad a rhif ffôn
- enw, cyfeiriad, rhif Yswiriant Gwladol, a Chyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) y person a fu farw
- unrhyw Dreth Incwm a Threth Enillion Cyfalaf sy’n ddyledus o hyd ar gyfer y cyfnod gweinyddu cyfan
- unrhyw Dreth Incwm a Threth Enillion Cyfalaf yr ydych wedi rhoi gwybod amdanynt ac wedi eu talu yn ystod y cyfnod gweinyddu, er enghraifft os gwnaethoch werthu eiddo
Talu Wrth Ennill a Hunanasesiad
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST
Y Deyrnas Unedig
Bydd CThEF wedyn yn anfon manylion atoch ar sut i dalu unrhyw dreth sy’n ddyledus gan yr ystâd.
Rhoi gwybod am ystadau ‘cymhleth’
Os na allwch ddefnyddio trefniadau anffurfiol mae’n rhaid i chi gofrestru’r ystâd ar-lein ac anfon Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer yr ystâd.
Mae yna brosesau gwahanol ar gyfer llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer incwm a enillwyd cyn y farwolaeth neu Ffurflen Treth Etifeddiant.
Mae’n rhaid i chi gofrestru erbyn 5 Hydref ar ôl y flwyddyn dreth rydych yn anfon Ffurflen Dreth ar ei chyfer.
Er enghraifft, i anfon Ffurflen Dreth ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024 (sy’n dod i ben ar 5 Ebrill 2024) mae’n rhaid i chi gofrestru erbyn 5 Hydref 2024.
I gofrestru ystâd, bydd angen y canlynol arnoch:
- cyfrif Porth y Llywodraeth fel ‘Sefydliad’ – gallwch greu hyn cyn i chi fewngofnodi am y tro cyntaf
- cyfeiriad e-bost
- eich manylion, gan gynnwys eich rhif Yswiriant Gwladol neu rif pasbort
- manylion y person a fu farw, gan gynnwys rhif Yswiriant Gwladol y person hwnnw
Bydd arnoch angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) ar gyfer Porth y Llywodraeth ar wahân ar gyfer pob ystâd yr ydych yn ei chofrestru.
Os ydych yn asiant bydd angen i chi ddefnyddio’ch cyfrif gwasanaethau asiant. Bydd angen caniatâd gan y cynrychiolydd personol arnoch i allu cael at fanylion yr ystâd.
Ar ôl i chi gofrestru, byddwch yn gallu cadw rheolaeth ar wybodaeth am yr ystâd.
Mewngofnodwch i’ch cyfrif er mwyn:
- diweddaru eich manylion
- diweddaru manylion yr ystâd
- penodi asiant
- cau’r ystâd ar ôl iddi gael ei rhannu
Ar ôl i chi gofrestru ystâd
Bydd CThEF yn anfon UTR atoch ar gyfer yr ystâd cyn pen 15 diwrnod gwaith. Defnyddiwch hwn i wneud un o’r canlynol:
- llenwi Ffurflen Dreth Ymddiriedolaeth ac Ystâd (ffurflen SA900) (yn agor tudalen Saesneg) a’i hanfon drwy’r post at CThEF erbyn 31 Hydref y flwyddyn dreth ganlynol
- anfon Ffurflen Dreth ar-lein drwy ddefnyddio meddalwedd dreth sy’n gallu delio â chyflwyno ffurflenni SA900 (yn agor tudalen Saesneg) erbyn 31 Ionawr y flwyddyn dreth ganlynol
Mae’n rhaid i chi dalu unrhyw dreth sy’n ddyledus erbyn y 31 Ionawr nesaf yn dilyn y flwyddyn dreth yn eich Ffurflen Dreth (yr un dyddiad cau sydd ar gyfer cyflwyno Ffurflen Dreth ar-lein).
5. Dosbarthu’r ystad
Unwaith y byddwch wedi talu unrhyw ddyledion a threthi, neu os ydych yn siŵr bod gan yr ystâd ddigon o arian i wneud hynny, dosbarthwch yr ystâd yn ôl y canlynol:
- yr ewyllys
- y gyfraith os nad oes ewyllys (yn agor tudalen Saesneg)
Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu unrhyw ddyledion a biliau treth sy’n weddill eich hun os ydych yn dosbarthu’r ystâd ac nad ydych yn cadw digon o arian neu asedion yn yr ystâd i’w talu.
Os taloch dreth ar unrhyw incwm yn ystod y cyfnod gweinyddu, rhowch ddatganiad incwm cyflawn i unrhyw un sy’n cael yr incwm hwnnw o ffurflen ystadau (yn agor tudalen Saesneg).
Mae arweiniad i fuddiolwyr ynghylch treth ar eiddo, arian a chyfranddaliadau y maent yn eu hetifeddu (yn agor tudalen Saesneg).
Os ydych chi’n dosbarthu eiddo
Os ydych yn trosglwyddo eiddo mae’n rhaid i chi ddiweddaru’r gofrestr eiddo gyda Chofrestrfa Tir EF.
Paratoi cyfrifon terfynol
Unwaith y bydd yr holl ystâd yn cael ei dosbarthu, gallwch baratoi’r cyfrifon ystâd terfynol. Dylai’r rhain gael eu cymeradwyo a’u llofnodi gennych chi a’r prif fuddiolwyr.