Osgoi a rhoi gwybod am sgamiau ar y rhyngrwyd a gwe-rwydo

Skip contents

Rhoi gwybod am sgamiau ar y rhyngrwyd a gwe-rwydo

Rhowch wybod am wefannau, e-byst, rhifau ffôn, galwadau ffôn neu negeseuon testun camarweiniol y credwch efallai eu bod yn amheus.

Peidiwch â rhoi gwybodaeth breifat (megis manylion banc neu gyfrineiriau), ateb negeseuon testun, lawrlwytho atodiadau na chlicio ar unrhyw gysylltiadau mewn e-byst os nad ydych yn siŵr eu bod yn rhai dilys.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

E-byst

Anfonwch e-byst amheus ymlaen i report@phishing.gov.uk.

Bydd y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) yn ymchwilio iddynt.

Negeseuon testun

Anfonwch negeseuon testun amheus ymlaen i 7726 - mae’n rhad ac am ddim.

Bydd hyn yn rhoi gwybod i ddarparwr eich ffôn symudol am y neges.

Hysbysebion

Rhowch wybod i’r Awdurdod Safonau Hysbysebu am hysbysebion sgam neu gamarweiniol. Gallwch roi gwybod am hysbysebion a ganfuwyd ar-lein, gan gynnwys y rheini a ganfuwyd mewn peiriannau chwilio, ar wefannau neu ar y cyfryngau cymdeithasol.

Gallwch hefyd wneud y canlynol:

Os ydych yn credu eich bod wedi dioddef twyll neu sgam ar-lein

Cysylltwch ag Action Fraud os ydych yn credu eich bod wedi colli arian neu wedi eich hacio o ganlyniad i dwyll neu sgam ar-lein, a’ch bod yng Nghymru neu Loegr. Gallwch wneud y canlynol:

  • rhoi gwybod ar-lein - gallwch naill ai gofrestru ar gyfer cyfrif neu fynd yn eich blaen fel ‘gwestai’
  • ffonio 0300 123 2040 - gallwch roi gwybod am ba iaith yr hoffech ei defnyddio yn ystod yr alwad

Os ydych yn yr Alban a’ch bod wedi colli arian o ganlyniad i dwyll neu sgam ar-lein, rhowch wybod i Heddlu’r Alban am y drosedd.

Osgoi gwefannau, e-byst a rhifau ffôn sy’n dynwared gwasanaethau’r llywodraeth

Mae rhai gwefannau, e-byst neu rifau ffôn yn edrych fel pe baent yn rhan o wasanaeth swyddogol gan y llywodraeth pan nad ydynt felly, neu maent yn honni eu bod yn gallu helpu’n fwy nag y gallant mewn gwirionedd. Mae rhai yn gwneud i chi dalu am bethau a fyddai am ddim neu’n rhatach pe byddech wedi defnyddio gwasanaeth swyddogol y llywodraeth.

Chwiliwch ar GOV.UK (yn agor tudalen Saesneg) i ddod o hyd i rifau ffôn a gwasanaethau swyddogol y llywodraeth, er enghraifft os ydych yn dymuno gwneud cais i’r DVLA am drwydded yrru.