Osgoi a rhoi gwybod am sgamiau ar y rhyngrwyd a gwe-rwydo

Skip contents

Rhoi gwybod am sgamiau fisa a mewnfudo

Ni ofynnir i chi, ar unrhyw adeg, i dalu am fisa gan ddefnyddio’r dulliau canlynol:

  • arian parod   
  • trosglwyddiad arian    

Cysylltwch ag Action Fraud i roi gwybod am sgamiau fisa a mewnfudo. Dylech gynnwys:

  • copi o’r e-bost amheus a gawsoch, cyfeiriad e-bost yr anfonwr a’r dyddiad a’r amser yr anfonwyd yr e-bost    
  • manylion o’r hyn a anfonoch mewn ateb, os gwnaethoch ateb - er enghraifft a wnaethoch anfon eich manylion banc, cyfeiriad neu gyfrinair

Gallwch hefyd roi gwybod i’r heddlu am e-byst, llythyrau neu alwadau ffôn amheus drwy Action Fraud.