Osgoi a rhoi gwybod am sgamiau ar y rhyngrwyd a gwe-rwydo
Rhoi gwybod am sgamiau e-byst, negeseuon testun, galwadau ffôn a llythyrau yn enw CThEF
Gallwch roi gwybod am e-byst, negeseuon testun, galwadau ffôn a llythyrau amheus i Gyllid a Thollau EF (CThEF). Mae sut yr ydych yn gwneud hyn yn dibynnu ar beth rydych wedi’i gael.
Dilynwch y camau isod os cawsoch y canlynol:
- neges destun, anfonwch hon ymlaen i 60599 - caiff tâl ei godi arnoch ar gyfradd eich rhwydwaith
- e-bost, anfonwch hwn ymlaen i phishing@hmrc.gov.uk
- neges mewn rhaglen, er enghraifft WhatsApp, tynnwch sgrinlun a’i anfon drwy e-bost i phishing@hmrc.gov.uk
- galwad ffôn yn gofyn am wybodaeth bersonol neu’n bygwth dwyn achos cyfreithlon yn eich erbyn, rhowch wybod am yr alwad ar-lein
- llythyr, cysylltwch â’r tîm yn CThEF y mae’r llythyr yn nodi ei fod oddi wrtho (yn agor tudalen Saesneg), er enghraifft y tîm Hunanasesiad
Bydd eich cyfeiriad e-bost a’ch rhif ffôn yn cael eu rhannu â sefydliadau eraill os yw hynny’n angenrheidiol er mwyn rhoi terfyn ar y sgam.
Os ydych wedi rhoi eich manylion personol i rywun
Cysylltwch â thîm diogelwch CThEF os ydych yn credu eich bod wedi rhoi unrhyw wybodaeth bersonol wrth ateb e-bost neu neges destun amheus.
Rhowch fanylion cryno o’r hyn rydych wedi’i ddatgelu (er enghraifft enw, cyfeiriad, Dynodydd Defnyddiwr CThEF, cyfrinair) ond peidiwch â rhoi eich manylion personol yn yr e-bost.
Tîm diogelwch CThEF
security.custcon@hmrc.gov.uk
Adnabod sgamiau yn enw CThEF
Ni chewch byth e-bost, neges destun, neges mewn rhaglen (er enghraifft WhatsApp) na galwad ffôn gan CThEF sy’n gwneud y canlynol:
- rhoi gwybod i chi am ad-daliad treth neu gosb
- gofyn am eich gwybodaeth bersonol neu’ch gwybodaeth am daliadau
Gwiriwch arweiniad CThEF ar adnabod sgamiau os nad ydych yn siŵr.