Tâl ac absenoldeb mamolaeth
Absenoldeb
Mae Absenoldeb Mamolaeth Statudol yn 52 wythnos. Mae’n cynnwys:
- Absenoldeb Mamolaeth Arferol – 26 wythnos gyntaf
- Absenoldeb Mamolaeth Ychwanegol – 26 wythnos diwethaf
Nid oes rhaid i chi gymryd 52 wythnos ond mae’n rhaid i chi gymryd pythefnos o absenoldeb ar ôl i’ch babi gael ei eni (neu 4 wythnos os ydych yn gweithio mewn ffatri).
Defnyddiwch y cynlluniwr mamolaeth i gyfrifo’r dyddiadau ar gyfer eich absenoldeb arferol a’ch absenoldeb ychwanegol.
Mae’n bosibl y bydd gennych hawl i gymryd rhan o’ch absenoldeb fel Absenoldeb ar y Cyd i Rieni.
Dyddiad dechrau a genedigaethau cynnar
Fel arfer, y cynharaf y gallwch ddechrau’ch absenoldeb yw 11 wythnos cyn yr wythnos y disgwylir i’r plentyn gael ei eni.
Bydd absenoldeb hefyd yn dechrau:
- y diwrnod ar ôl yr enedigaeth, os yw’r babi’n cael ei eni’n gynnar
- yn awtomatig, os ydych i ffwrdd o’r gwaith oherwydd salwch sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd yn ystod y 4 wythnos cyn yr wythnos (o ddydd Sul i ddydd Sadwrn) y disgwylir i’ch babi gael ei eni
Defnyddiwch y cynlluniwr mamolaeth i gyfrifo’r dyddiad cynharaf y gall eich absenoldeb mamolaeth ddechrau.
Newid eich dyddiad ar gyfer dychwelyd i’r gwaith
Mae’n rhaid i chi roi o leiaf 8 wythnos o rybudd i’ch cyflogwr os ydych am newid eich dyddiad dychwelyd i’r gwaith.