Tâl ac absenoldeb mamolaeth
Cymorth ychwanegol
Budd-daliadau mamolaeth
Defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau i weld pa help y gallwch ei gael o’r canlynol:
- Credyd Cynhwysol
- Budd-dal Plant
- Credyd Treth Plant
- Credydau Treth Gwaith – gall hyn barhau am 39 wythnos ar ôl i chi fynd ar absenoldeb mamolaeth
- Cymhorthdal Incwm – efallai y cewch hyn tra nad ydych yn gweithio
Gallech gael Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn gwerth £500 (fel arfer os mai dyma’ch plentyn cyntaf).
Os nad ydych yn gymwys i gael Tâl Mamolaeth Statudol, gallech gael Lwfans Mamolaeth gan y llywodraeth.
Cynlluniau mamolaeth cwmnïau
Efallai y cewch fwy na’r swm statudol o absenoldeb a thâl os oes gan eich cyflogwr gynllun mamolaeth cwmni. Ni all gynnig llai na’r swm statudol i chi.
Absenoldeb ychwanegol
Gallech gael 18 wythnos o absenoldeb di-dâl i rieni ar ôl yr enedigaeth – gall hyn gael ei gyfyngu i 4 wythnos y flwyddyn.