Tâl ac absenoldeb mamolaeth
Cymhwystra
Absenoldeb Mamolaeth Statudol
Rydych yn gymwys i gael Absenoldeb Mamolaeth Statudol os:
- rydych yn gyflogai, nid ‘gweithiwr’
- rydych yn rhoi’r rhybudd cywir i’ch cyflogwr
Does dim ots pa mor hir rydych wedi bod gyda’ch cyflogwr, faint o oriau rydych yn gweithio na faint rydych yn cael eich talu.
Ni allwch gael Absenoldeb Mamolaeth Statudol os ydych yn cael plentyn drwy fam fenthyg - gallech gael Absenoldeb a Thâl Mabwysiadu Statudol yn lle hynny.
Tâl Mamolaeth Statudol (SMP)
Er mwyn bod yn gymwys i gael Tâl Mamolaeth Statudol, mae’n rhaid i’r canlynol fod yn wir:
- rydych yn ennill, ar gyfartaledd, o leiaf £123 yr wythnos
- rydych yn rhoi tystiolaeth eich bod yn feichiog
- rydych wedi gweithio i’ch cyflogwr yn barhaus am o leiaf 26 wythnos, gan gynnwys yr ‘wythnos gymwys’ - y 15fed wythnos cyn yr wythnos y disgwylir i’ch plentyn gael ei eni
Ni allwch gael Tâl Mamolaeth Statudol os ewch i ddalfa’r heddlu yn ystod eich cyfnod tâl mamolaeth. Ni fydd yn ailgychwyn pan fyddwch yn cael eich rhyddhau.
Genedigaethau cynnar neu os ydych yn colli’ch babi
Gallwch barhau i gael Absenoldeb Mamolaeth Statudol a Thâl Mamolaeth Statudol os:
- mae’ch babi’n cael ei eni’n gynnar
- mae’ch babi’n farw-enedigol ar ôl dechrau’ch 24ain wythnos o feichiogrwydd
- mae’ch babi’n marw ar ôl cael ei eni
Os nad ydych yn gymwys i gael Tâl Mamolaeth Statudol
Mae’n rhaid i’ch cyflogwr roi ffurflen SMP1 i chi sy’n egluro pam na allwch gael Tâl Mamolaeth Statudol cyn pen 7 diwrnod ar ôl dod i’w benderfyniad. Efallai y byddwch yn gymwys i gael Lwfans Mamolaeth yn lle hynny.