Taliad Niwed Trwy Frechiad

Skip contents

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad

Gallwch herio penderfyniad am eich cais Taliad Niwed Trwy Frechiad. Gelwir hyn yn gofyn am ‘wrthdroad gorfodol’.

Os cafodd y penderfyniad ei wneud ar ôl 27 Hydref 2013

Ysgrifennwch at Gynllun Taliad Niwed Trwy Frechiad. Mae’n rhaid i chi:

  • esbonio pam rydych yn meddwl bod y penderfyniad yn anghywir
  • cynnwys unrhyw dystiolaeth newydd i gefnogi’ch cais – tystiolaeth nad ydych wedi ei hanfon yn barod

Vaccine Damage Payment Scheme
Unit 5 Greenfinch Way
Newburn Business Park
Newcastle-upon-Tyne
NE15 8NX

Rhaid i chi gynnwys:

  • dyddiad y penderfyniad talu gwreiddiol
  • eich enw a’ch cyfeiriad
  • eich dyddiad geni
  • eich rhif Yswiriant Gwladol

Os cafodd y penderfyniad ei wneud ar neu cyn 27 Hydref 2013

Cysylltwch â Chynllun Taliad Niwed Trwy Frechiad am gyngor ar herio’r penderfyniad.

Cynllun Taliad Niwed Trwy Frechiad
nhsbsa.vdps@nhs.net
Ffôn: 0300 330 0013
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8am i 4:30pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Beth sy’n digwydd nesaf

Bydd y penderfyniad gwreiddiol yn cael ei adolygu. Bydd Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG (NHSBSA) yn anfon penderfyniad newydd i chi os ydynt yn meddwl y dylid ei newid.

Os nad ydynt yn meddwl y dylid newid y penderfyniad, byddwch yn cael ‘hysbysiad gwrthdroad gorfodol’ a fydd yn esbonio’r rhesymau pam. Bydd hyn yn cynnwys y wybodaeth sydd ei hangen arnoch i allu apelio.

Os ydych yn anghytuno â’r canlyniad

Gallwch ofyn am wrthdroad gorfodol eto – nid oes cyfyngiad ar y nifer o weithiau y gallwch wneud y cais hwn, ac nid oes terfyn amser.

Gallwch hefyd apelio i’r Tribiwnlys Nawdd Cymdeithasol a Chynhaliaeth Plant. Mae’r tribiwnlys yn ddiduedd ac yn annibynnol o’r llywodraeth.

Nid oes terfyn amser ar wneud cais am apêl.

Lawrlwythwch a llenwch ffurflen SSCS7 ac anfonwch i’r cyfeiriad sydd ar y ffurflen.

Bydd angen i chi ddewis os ydych am fynd i’r gwrandawiad tribiwnlys i esbonio’ch cais. Os nad ydych yn mynychu, bydd eich apêl yn cael ei phenderfynu yn seiliedig ar eich ffurflen apêl ac unrhyw dystiolaeth ategol.

Ar ôl anfon eich cais, gallwch ddarparu tystiolaeth. Bydd eich apêl a’r dystiolaeth yn cael eu trafod mewn gwrandawiad gan farnwr ac un neu ddau arbenigwr, er enghraifft meddyg. Bydd y barnwr wedyn yn gwneud penderfyniad.

Fel arfer bydd yn cymryd tua 6 mis i’ch apêl gael ei chlywed gan y tribiwnlys.