Talu gorchymyn cynhaliaeth ar-lein
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i dalu gorchymyn cynhaliaeth ar-lein.
Bydd arnoch angen:
- cerdyn debyd neu gerdyn credyd
- rhif eich cyfrif - mae hwn yn cynnwys 8 rhif a llythyren (gallwch ddod o hyd i hwn ar unrhyw lythyr yr ydych wedi’i gael gan y llys)
Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:
- cafodd eich gorchymyn ei gofrestru yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon
- cawsoch eich gorchymyn gan y llys i dalu’r parti arall yn uniongyrchol
- mae’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant neu’r Asiantaeth Cynnal Plant (CSA) yn delio â’ch achos
Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i dalu gorchymyn cynhaliaeth a gofrestrwyd gan lys yng Nghymru neu yn Lloegr, hyd yn oed os ydych chi’n byw mewn gwlad arall.
Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Rhaid i’ch taliad ein cyrraedd ar y dyddiad a nodir, neu cyn hynny.
Os na allwch ddod o hyd i’ch rhif cyfrif
Cysylltwch â Chanolfan Fusnes Gorfodi Cynhaliaeth (MEBC) os na allwch ddod o hyd i’ch rhif cyfrif.
Dim ond un MEBC sydd yna yn awr ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae MEBC Cymru a MEBC Llundain wedi cau.
Cymru a Lloegr
Bury St Edmunds Maintenance Enforcement Business Centre
Triton House
St Andrews Street North
Bury St Edmunds
Suffolk
IP33 1TR
Ffyrdd eraill o dalu
Gallwch dalu eich gorchymyn cynhaliaeth dros y ffôn gyda cherdyn credyd neu gerdyn debyd.
Gwasanaeth Talu Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF
Rhif ffôn: 0300 790 9980 (Cymraeg)
Rhif ffôn: 0300 790 9901 (Saesneg)
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am tan 5pm
Gwybodaeth am gost galwadau