Talu eich bil TAW
Talu ar-lein â cherdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol
Gallwch dalu eich bil TAW ar-lein. Gallwch hefyd dalu unrhyw ordaliadau neu gosbau sydd arnoch.
Gallwch dalu drwy un o’r dulliau canlynol:
- cerdyn credyd corfforaethol
- cerdyn debyd corfforaethol
- cerdyn debyd personol
Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.
Bydd ffi yn cael ei chodi arnoch os talwch â cherdyn credyd corfforaethol neu gerdyn debyd corfforaethol, ac ni chewch y ffi honno’n ôl. Ni fydd ffi yn cael ei chodi os talwch â cherdyn debyd personol.
Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y gwnewch y taliad (hyd yn oed ar wyliau banc a phenwythnosau) – nid y dyddiad y mae’n cyrraedd cyfrif CThEF.
Os na allwch dalu eich bil TAW yn llawn â cherdyn, dylech ddefnyddio dull arall o dalu, megis trosglwyddiad banc.
Cyfeirnod
Bydd angen i chi roi’ch rhif cofrestru TAW 9 digid. Gallwch ddod o hyd i’ch rhif cofrestru TAW 9 digid:
- yn eich cyfrif TAW ar-lein
- ar eich tystysgrif cofrestru TAW
Os oes angen i chi dalu gordal TAW neu gosb
Bydd angen i chi ddefnyddio’ch cyfeirnod 14 o gymeriadau sy’n dechrau gydag X pan fyddwch chi’n talu.
Gallwch ddod o hyd i hyn ar y llythyr a anfonodd CThEF atoch am eich gordal neu gosb.
Gall eich taliad gael ei oedi os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.