Talu eich bil TAW
Cymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein
Gallwch dalu’ch bil TAW yn uniongyrchol gan ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif banc symudol. Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio wrth law cyn i chi ddechrau.
Pan fyddwch yn barod, dechreuwch eich taliad TAW. Dewiswch yr opsiwn ‘talu drwy gyfrif banc’. Bydd gofyn i chi fewngofnodi i’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif banc symudol i gymeradwyo’ch taliad TAW.
Gallwch ddewis dyddiad talu, cyn belled â’i fod cyn dyddiad dyledus eich taliad.
Gwiriwch eich cyfrif i wneud yn siŵr bod y taliad wedi mynd allan ar y dyddiad cywir. Os nad yw’r taliad wedi mynd allan yn ôl y disgwyl, cysylltwch â’ch banc.
Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n gallu cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif banc.
Cyfeirnod
Bydd angen eich rhif cofrestru TAW 9 digid arnoch i wneud taliad.
Gallwch ddod o hyd i’ch rhif cofrestru:
- yn eich cyfrif TAW ar-lein
- ar eich tystysgrif cofrestru TAW
Peidiwch â rhoi unrhyw fylchau rhwng y digidau wrth dalu’ch bil TAW.
Os oes angen i chi dalu gordal TAW neu gosb
Bydd angen i chi ddefnyddio’ch cyfeirnod 14 o gymeriadau sy’n dechrau gydag X pan fyddwch chi’n talu.
Gallwch ddod o hyd i hyn ar y llythyr a anfonodd Cyllid a Thollau EF (CThEF) atoch am eich gordal neu gosb.