Cymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein

Gallwch dalu’ch Treth Etifeddiant yn uniongyrchol drwy ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif banc symudol.

Pan fyddwch yn barod i dalu, dechreuwch eich taliad Treth Etifeddiant.

Dewiswch yr opsiwn i dalu drwy gyfrif banc. Yna, gofynnir i chi fewngofnodi i’ch cyfrif banc ar-lein, neu’ch cyfrif bancio drwy ffôn symudol, i gymeradwyo’ch taliad.

Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond mae’n gallu cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif banc.

Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio ar-lein wrth law er mwyn talu drwy’r dull hwn.