Talu eich bil Treth Gorfforaeth
Trosolwg
Bydd y dyddiad cau ar gyfer eich taliad yn dibynnu ar eich elw trethadwy.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Elw trethadwy hyd at £1.5 miliwn
Mae’n rhaid i chi dalu’ch Treth Gorfforaeth 9 mis ac 1 diwrnod ar ôl diwedd eich cyfnod cyfrifyddu. Fel arfer, eich cyfnod cyfrifyddu yw’ch blwyddyn ariannol, ond mae’n bosibl y bydd gennych 2 gyfnod cyfrifyddu yn ystod y flwyddyn y gwnaethoch sefydlu’ch cwmni (yn agor tudalen Saesneg)
Elw trethadwy dros £1.5 miliwn
Mae’n rhaid i chi dalu’ch Treth Gorfforaeth fesul rhandaliad.
Gwiriwch y rheolau a’r dyddiadau cau:
Dulliau o dalu
Sicrhewch eich bod yn talu Cyllid a Thollau EF (CThEF) erbyn y dyddiad cau. Efallai y bydd yn codi llog arnoch (yn agor tudalen Saesneg) os na fyddwch yn talu mewn pryd. Bydd yn talu llog i chi (yn agor tudalen Saesneg) os byddwch yn talu’ch treth yn gynnar.
Mae’r amser y mae angen i chi ei ganiatáu yn dibynnu ar eich dull o dalu.
Ni allwch dalu Treth Gorfforaeth drwy’r post.
Ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf
-
bancio ar-lein neu fancio dros y ffôn drwy Daliadau Cyflymach neu CHAPS
3 diwrnod gwaith
-
Debyd Uniongyrchol (os ydych wedi trefnu un ar gyfer CThEF yn flaenorol)
-
bancio ar-lein neu dros y ffôn drwy Bacs
-
yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu
5 diwrnod gwaith
- Debyd Uniongyrchol (os nad ydych wedi trefnu un ar gyfer CThEF yn flaenorol)
Os bydd y dyddiad cau ar benwythnos neu ar ŵyl banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn y diwrnod gwaith olaf cyn hynny (oni bai eich bod yn talu drwy Daliadau Cyflymach gan ddefnyddio bancio ar-lein neu dros y ffôn).