Talu eich bil Treth Gorfforaeth
Yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu
Dim ond os oes gennych slip talu i mewn gan Gyllid a Thollau EF (CThEF) y gallwch dalu yn eich cangen ag arian parod neu siec.
Talu â siec
Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’.
Ysgrifennwch eich cyfeirnod talu Treth Gorfforaeth, sy’n 17 o gymeriadau, ar gefn eich siec.
Gallwch gael hyd i’ch cyfeirnod:
-
ar eich ‘hysbysiad i gyflwyno’ch Ffurflen Dreth’ neu ar unrhyw nodynnau atgoffa gan CThEF
-
yng nghyfrif ar-lein CThEF eich cwmni – dewiswch ‘bwrw golwg dros eich cyfrif’, ‘cyfnod cyfrifyddu’, ac yna dewiswch y cyfnod cywir
Mae’ch cyfeirnod talu’n newid gyda phob cyfnod cyfrifyddu, felly bydd angen i chi ddefnyddio un gwahanol bob tro y byddwch yn talu.
Gall eich taliad gael ei oedi os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.
Caniatewch 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd cyfrif banc CThEF.
Os nad oes gennych slip talu i mewn
Bydd angen i chi dalu drwy ddull arall yn lle hynny, er enghraifft: