Cymeradwyo taliad gan ddefnyddio’ch cyfrif bancio ar-lein

Gallwch dalu’ch bil Treth Gorfforaeth yn uniongyrchol gan ddefnyddio’ch cyfrif bancio ar-lein neu’ch cyfrif bancio symudol.

Pan fyddwch yn barod i dalu, dechreuwch eich taliad Treth Gorfforaeth.

Dewiswch yr opsiwn, ‘talu drwy gyfrif banc’. Yna, bydd gofyn i chi fewngofnodi i’ch cyfrif bancio ar-lein, neu’ch cyfrif bancio symudol, i gymeradwyo taliad i ‘HMRC Shipley’.

Defnyddiwch eich cyfeirnod talu Treth Gorfforaeth, sy’n 17 o gymeriadau, ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu yr ydych yn talu amdano.

Gallwch gael hyd i’ch cyfeirnod:

  • ar eich ‘hysbysiad i gyflwyno’ch Ffurflen Dreth’ neu ar unrhyw nodynnau atgoffa gan Gyllid a Thollau EF (CThEF)

  • yng nghyfrif ar-lein CThEF eich cwmni – dewiswch ‘bwrw golwg dros eich cyfrif’, ‘cyfnod cyfrifyddu’, ac yna dewiswch y cyfnod cywir

Mae’ch cyfeirnod talu’n newid gyda phob cyfnod cyfrifyddu, felly bydd angen i chi ddefnyddio un gwahanol bob tro y byddwch yn talu.

Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n gallu cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif banc.

Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio ar-lein wrth law er mwyn talu drwy’r dull hwn.