Talu TWE y cyflogwr
Rhoi gwybod i CThEF nad oes taliad yn ddyledus
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) os nad ydych wedi talu unrhyw gyflogeion am o leiaf un mis treth.
Gallwch roi gwybod i CThEF drwy lenwi Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr (EPS) (yn agor tudalen Saesneg).
Mae’n rhaid i chi ei anfon erbyn 19eg o’r mis sy’n dilyn y mis treth pan nad oedd unrhyw gyflogeion wedi’u talu.
Os na fyddwch yn anfon EPS, bydd CThEF yn anfon hysbysiad atoch yn amcangyfrif faint sydd arnoch. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosb.
Rhoi gwybod i CThEF ymlaen llaw
Gallwch roi gwybod i CThEF na fyddwch yn talu unrhyw gyflogeion am gyfnod rhwng un mis a 12 mis (yn agor tudalen Saesneg) drwy lenwi EPS.
Mae angen i gontractwyr yng Nghynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS), nad oes ganddynt unrhyw daliadau i’w gwneud, roi gwybod i CThEF drwy ddatganiad CIS (yn agor tudalen Saesneg) a thrwy EPS. Dim ond datganiad CIS y mae angen i gontractwyr CIS gyda thaliadau i’w gwneud ei gyflwyno.