Talu TWE y cyflogwr
Talu drwy Debyd Uniongyrchol
Gallwch sefydlu Debyd Uniongyrchol drwy’ch cyfrif ar-lein Cyllid a Thollau EF (CThEF) i dalu’ch bil yn awtomatig.
Bydd CThEF yn casglu’r taliad o’ch cyfrif banc yn awtomatig, yn seiliedig ar y swm yn eich Ffurflen Dreth (a elwir hefyd yn Cyflwyniad Taliadau Llawn (FPS) (yn agor tudalen Saesneg)). Dim ond unwaith y bydd angen i chi sefydlu’r Debyd Uniongyrchol.
Ewch ati i’w drefnu o leiaf 4 diwrnod gwaith cyn y dyddiad dyledus ar gyfer eich taliad.
Os nad ydych wedi defnyddio’ch Debyd Uniongyrchol am 2 flynedd neu fwy, gwiriwch â’ch banc ei fod wedi’i sefydlu o hyd.
Sefydlu Debyd Uniongyrchol
Cyn i chi ddechrau
Bydd angen i chi ddefnyddio’ch cyfeirnod swyddfa gyfrifon, sy’n 13 o gymeriadau, fel cyfeirnod talu. Gallwch ddod o hyd i’r cyfeirnod hwn:
-
ar y llythyr a gawsoch oddi wrth CThEF pan wnaethoch gofrestru fel cyflogwr (os gwnaeth eich cyfrifydd neu’ch ymgynghorydd treth gofrestru ar eich rhan, bydd y llythyr hwn wedi’i anfon ato)
Bydd angen i chi ychwanegu rhifau at eich cyfeirnod swyddfa cyfrifon sy’n 13 o gymeriadau, bob tro y byddwch yn gwneud y canlynol:
-
taliad cynnar (cyn y 6ed o’r mis treth neu’r chwarter mae’r taliad yn ddyledus)
-
taliad hwyr (ar neu ar ôl y 5ed o’r mis treth ar ôl i’r taliad fod yn ddyledus)
Gall eich taliad gael ei oedi os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.
Pryd y bydd y taliad yn cael ei gymryd
Fel arfer bydd CThEF yn casglu’r taliad ar y naill neu’r llall o’r canlynol:
-
yn fuan ar ôl yr 22ain o’r mis
-
4 diwrnod gwaith ar ôl i chi gyflwyno’r Ffurflen Dreth (os byddwch yn ei chyflwyno ar ôl y 19eg o’r mis)
Bydd CThEF yn rhoi gwybod i chi beth yw’r dyddiad a’r swm 3 diwrnod gwaith cyn i’r taliad gael ei gasglu, fan bellaf. Bydd y taliadau’n ymddangos ar eich cyfriflen banc fel ‘HMRC SDDS’.
Os ydych yn talu’n chwarterol, dylech barhau i gyflwyno datganiad misol. Bydd CThEF yn casglu cyfanswm y taliad bob 3 mis.
Pan na allwch dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol
Mae’n rhaid i chi dalu mewn dull gwahanol os yw un o’r canlynol yn wir:
-
rydych yn gwneud taliadau o £20 miliwn neu fwy
-
rydych yn defnyddio cyfrif banc tramor i dalu’ch bil TWE
-
rydych wedi’ch eithrio rhag talu’ch datganiadau TWE ar-lein
-
rydych yn ymarferwr ansolfedd
-
rydych yn gontractwr Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) nad yw wedi’i gofrestru ar gyfer TWE ar-lein
Ni allwch sefydlu Debyd Uniongyrchol i gymryd taliadau’n awtomatig am gosb TWE neu Gytundebau setliad TWE.