Cael ymwahaniad cyfreithiol

I gael ymwahaniad cyfreithiol, bydd angen i chi lenwi cais am ymwahaniad a’i anfon i’r llys.

Mae ymwahaniad cyfreithiol yn eich galluogi i wahanu, heb ysgaru neu ddod â phartneriaeth sifil i ben.

Efallai eich bod eisiau ymwahaniad cyfreithiol:

  • os oes gennych resymau crefyddol yn erbyn ysgariad
  • rydych wedi priodi neu wedi bod mewn partneriaeth sifil ers llai na blwyddyn
  • rydych eisiau amser i feddwl a ydych eisiau dod â’r briodas neu’r bartneriaeth sifil i ben

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Cyn i chi wneud cais

Rhaid i chi benderfynu p’un a ydych eisiau gwneud cais ar y cyd gyda’ch gŵr neu’ch gwraig ynteu wneud cais ar eich pen eich hun.

Gwneud cais ar y cyd gyda’ch gŵr neu’ch gwraig

Gallwch wneud cais ar y cyd os yw’r ddau beth canlynol yn berthnasol:

  • mae’r ddau ohonoch yn cytuno y dylech gael ymwahaniad cyfreithiol
  • nid ydych mewn perygl o gam-drin domestig

Os ydych eisiau gwneud cais am help i dalu ffioedd, rhaid i’r ddau ohonoch fod yn gymwys i’w gael.

Gwneud cais am ymwahaniad cyfreithiol ar eich pen eich hun

Gallwch wneud cais unigol os yw’r ddau beth canlynol yn berthnasol:

  • nid yw eich gŵr neu’ch gwraig yn cytuno y dylech gael ymwahaniad cyfreithiol
  • nid ydych yn meddwl y bydd eich gŵr neu’ch gwraig yn cydweithredu na’n ymateb i hysbysiadau gan y llys

Trefniadau ar gyfer plant, arian ac eiddo

Gallwch chi a’ch gŵr/gwraig ddewis sut i benderfynu ar:

Gallwch hefyd rannu eich arian a’ch eiddo.

Fel arfer, gallwch osgoi mynd i wrandawiadau llys os ydych yn cytuno ar drefniadau plant, arian ac eiddo.

Sut i wneud cais

Llenwch ffurflen gais am ymwahaniad cyfreithiol.

Anfonwch 3 copi o’r cais i’r cyfeiriad ar y ffurflen a chadwch gopi i chi eich hun hefyd. Mae arnoch angen cynnwys copi ardystiedig o’ch tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil pan fyddwch yn anfon y ffurflen.

Mae cael ymwahaniad cyfreithiol yn costio £365.

Efallai y gallwch gael help i dalu ffioedd os ydych yn cael budd-daliadau neu os ydych ar incwm isel.

Cael help neu gyngor

Gallwch gael cyngor am waith papur cyfreithiol ac o ran gwneud trefniadau gan:

Dod o hyd i gynghorydd cyfreithiol os oes arnoch angen cyngor cyfreithiol.