Absenoldeb a Thâl ar y Cyd i Rieni: arweiniad i gyflogwyr
Cymhwystra
Weithiau dim ond un rhiant mewn cwpl fydd yn gymwys i gael Absenoldeb ar y Cyd i Rieni (SPL) a Thâl Statudol ar y Cyd i Rieni (ShPP). Mae hyn yn golygu na allant rannu’r absenoldeb.
Os yw’ch cyflogai’n gymwys, gall ddefnyddio SPL i archebu ei wyliau mewn blociau ar wahân.
Absenoldeb ar y Cyd i Rieni
I fod yn gymwys ar gyfer SPL, rhaid i’ch cyflogai rannu’r cyfrifoldeb am y plentyn gydag un o’r canlynol:
- ei ŵr, gwraig, partner sifil neu fabwysiadwr ar y cyd
- rhiant arall y plentyn
- ei bartner (os yw’n byw gydag ef)
Rhaid i’ch cyflogai neu ei bartner fod yn gymwys i gael tâl neu absenoldeb mamolaeth, tâl neu absenoldeb mabwysiadu neu Lwfans Mamolaeth.
Mae’n rhaid i’r cyflogai hefyd:
- dal i gael ei gyflogi gennych tra bydd yn cael SPL
- rhoi’r rhybudd cywir i chi gan gynnwys datganiad bod ei bartner yn bodloni’r gofynion cyflogaeth ac incwm sy’n caniatáu i’ch cyflogai gael SPL
- bod wedi cael ei gyflogi’n barhaus gennych (yn agor tudalen Saesneg) am o leiaf 26 wythnos hyd at unrhyw ddiwrnod o’r ‘wythnos gymhwysol’, neu’r wythnos y caiff ei baru â phlentyn i’w fabwysiadu yn y DU
Yr ‘wythnos gymhwysol’ yw’r 15fed wythnos cyn y disgwylir i’r baban gael ei eni.
Tâl Statudol ar y Cyd i Rieni
Mae ShPP ar gael i berson sy’n gyflogai (yn agor tudalen Saesneg) ac mae un o’r canlynol yn berthnasol iddo:
- mae’n gymwys i gael Tâl Mamolaeth Statudol (SMP) neu Dâl Mabwysiadu Statudol (SAP)
- mae’n gymwys i gael Tâl Tadolaeth Statudol (SPP) ac mae ei bartner yn gymwys i gael SMP, Lwfans Mamolaeth (MA) neu SAP
Mae’r cyflogai hefyd yn gallu cael ShPP os yw’n weithiwr (yn agor tudalen Saesneg) ac yn gymwys i gael SMP neu SPP.
Gwrthod SPL neu ShPP
Gallwch wrthod SPL neu ShPP os nad yw’r cyflogai’n gymwys.
Rhaid i chi roi gwybod i’r cyflogai am y rheswm os ydych yn gwrthod ShPP. Nid oes rhaid i chi roi rheswm dros wrthod SPL.