Tâl ac absenoldeb tadolaeth
Cymhwystra
Mae’n rhaid i chi fod yn cymryd amser i ffwrdd i ofalu am y plentyn a bod yn un o’r canlynol:
- y tad
- gŵr neu bartner i’r fam (neu’r mabwysiadwr) – mae hyn yn cynnwys partneriaid o’r un rhyw
- mabwysiadwr y plentyn
- y rhiant bwriadedig (os ydych yn cael baban drwy drefniant mam fenthyg)
Mae amodau ychwanegol y mae’n rhaid i chi eu bodloni i fod yn gymwys i gael tâl ac absenoldeb.
Ni allwch gael Tâl ac Absenoldeb Tadolaeth os ydych wedi cymryd amser i ffwrdd â thâl i fynychu apwyntiadau mabwysiadu.
Absenoldeb Tadolaeth
Mae’n rhaid eich bod:
- yn gyflogai (yn agor tudalen Saesneg)
- yn rhoi’r rhybudd cywir
- wedi’ch cyflogi’n barhaus gan eich cyflogwr (yn agor tudalen Saesneg) am o leiaf 26 wythnos hyd at unrhyw ddiwrnod yn yr ‘wythnos gymhwysol’
Yr ‘wythnos gymhwysol’ yw’r 15fed wythnos cyn y disgwylir i’r baban gael ei eni. Mae hyn yn wahanol os ydych yn mabwysiadu.
Tâl Tadolaeth
Mae’n rhaid eich bod:
- yn cael eich cyflogi gan eich cyflogwr hyd at y dyddiad geni
- yn ennill o leiaf £123 yr wythnos (cyn treth)
- yn rhoi’r rhybudd cywir
- wedi’ch cyflogi’n barhaus gan eich cyflogwr (yn agor tudalen Saesneg) am o leiaf 26 wythnos hyd at unrhyw ddiwrnod yn yr ‘wythnos gymhwysol’
Yr ‘wythnos gymhwysol’ yw’r 15fed wythnos cyn y disgwylir i’r baban gael ei eni. Mae hyn yn wahanol os ydych yn mabwysiadu.
Os byddwch yn colli’ch baban
Gallwch gael Tâl neu Absenoldeb Tadolaeth o hyd os yw’ch baban:
- yn farw-anedig o 24ain wythnos y beichiogrwydd ymlaen
- yn cael ei eni’n fyw ar unrhyw adeg yn ystod y beichiogrwydd
Os nad ydych yn gymwys
Mae’n rhaid i’ch cyflogwr roi gwybod i chi cyn pen 28 diwrnod os nad ydych yn gymwys a’r rheswm pam, gan ddefnyddio ffurflen SPP1.