Tâl ac absenoldeb tadolaeth
Sut i hawlio
Gallwch hawlio Tâl ac Absenoldeb Tadolaeth drwy’ch cyflogwr. Mae’n rhaid i chi roi o leiaf 15 wythnos o rybudd i’ch cyflogwr.
Gallwch wneud hyn drwy lenwi’r ffurflen ar-lein (a elwir yn ‘ffurflen SC3’ yn flaenorol). Unwaith i chi lenwi’r ffurflen, bydd angen i chi ei lawrlwytho, neu ei hargraffu, a’i hanfon i’ch cyflogwr.
Gwirio a oes gan eich cyflogwr ei ffurflen ei hun. Os oes gan eich cyflogwr ei ffurflen ei hun, defnyddiwch y ffurflen honno yn lle.
Mae’r rheolau a’r ffurflenni’n wahanol os ydych yn mabwysiadu.
Bydd angen i chi gynnwys:
- y dyddiad disgwyl
- pryd rydych am i’ch absenoldeb ddechrau, er enghraifft, diwrnod yr enedigaeth neu’r wythnos ar ôl yr enedigaeth
- os ydych am gael 1 wythnos neu 2 wythnos o absenoldeb
Nid oes angen i chi roi tystiolaeth o’r beichiogrwydd na’r enedigaeth.
Defnyddiwch y cynlluniwr tadolaeth (yn agor tudalen Saesneg) i ddysgu erbyn pryd y mae angen i chi hawlio Absenoldeb Tadolaeth.