Tâl ac absenoldeb tadolaeth
Trosolwg
Pan fyddwch yn cymryd amser i ffwrdd am fod eich partner yn cael baban, am eich bod yn mabwysiadu plentyn neu am eich bod yn cael baban drwy drefniant mam fenthyg, mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i gael y canlynol:
- 1 neu 2 wythnos o Absenoldeb Tadolaeth â thâl
- Tâl Tadolaeth
- Absenoldeb a Thâl ar y Cyd i Rieni
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Efallai na chewch absenoldeb a thâl gyda’i gilydd, ac mae rheolau o ran sut i hawlio a phryd y cewch ddechrau’ch absenoldeb.
Hawliau cyflogaeth tra ydych ar absenoldeb
Mae’ch hawliau cyflogaeth (yn agor tudalen Saesneg) wedi’u diogelu tra yr ydych ar absenoldeb tadolaeth. Mae hyn yn cynnwys eich hawl i’r canlynol:
- cael codiadau cyflog
- cronni gwyliau
- dychwelyd i’r gwaith
Cewch amser i ffwrdd i fynd gyda’ch partner (neu’r fam fenthyg) i 2 apwyntiad cynenedigol.
Os ydych yn mabwysiadu plentyn, cewch amser i ffwrdd i fynychu dau apwyntiad mabwysiadu ar ôl i chi gael eich paru gyda phlentyn.