Absenoldeb a Thâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth
Trosolwg
Efallai y gallwch chi a’ch partner gymryd amser o’r gwaith os bydd eich plentyn yn marw cyn iddo droi’n 18 oed, neu os cewch farw-enedigaeth ar ôl 24 wythnos o feichiogrwydd.
Rhaid i’r farwolaeth neu’r farw-enedigaeth fod wedi digwydd ar neu ar ôl:
- 6 Ebrill 2020 os ydych yn gyflogedig yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban
- 6 Ebrill 2022 os ydych yn gyflogedig yng Ngogledd Iwerddon
Mae’r dudalen hon ar gael hefyd yn Saesneg (English).
Efallai y gallwch gael absenoldeb, tâl neu’r ddau. Mae’n bosibl y byddwch yn gymwys ar gyfer:
- Absenoldeb Rhieni Mewn Profedigaeth
- Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth
Mae rheolau ynghylch pryd y cewch gymryd eich absenoldeb a’ch tâl a sut i hawlio.
Hawliau cyflogaeth tra ydych ar absenoldeb
Mae’ch hawliau cyflogaeth wedi’u diogelu tra ydych ar Absenoldeb Rhieni mewn Profedigaeth. Mae hyn yn cynnwys eich hawl i’r canlynol:
- cael codiadau cyflog
- cronni gwyliau
- dychwelyd i’r gwaith